Enw?
Martin Veale YH
Swydd yng Nghwmni Buddiant Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd?
Cyfarwyddwr
Hanes Swyddi (yr ydych am ddweud wrthym amdanynt)?
Cymhwysais fel cyfrifydd tua 30 mlynedd yn ôl, ac yr wyf wedi gweithio ar draws nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus yn ardal De Cymru. Rwyf wedi gwneud rolau ym maes cyllid, archwilio, rheoli risg a llywodraethiant.
Yr wyf yn aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ar hyn o bryd, ac yn arwain yn y ddau ar faterion ariannol, archwilio a llywodraethiant. Yr wyf yn ynad, yn gweithio yn y llysoedd ym Merthyr Tudful, ac yr wyf hefyd yn llywodraethwr yng Ngholeg Gwent.
Tipyn amdanoch chi?
Cefais fy ngeni yn Nhredegar a’m magu yng Nglynebwy, lle bûm yn byw am flynyddoedd lawer. Mae gen i radd mewn cyfrifeg ac MSc mewn archwilio a rheoli.
Rwyf bellach yn byw ym Mhontypridd gyda fy ngwraig a’m merch. Yr wyf yn ffan chwaraeon brwd, yn dilyn rygbi Glynebwy a chriced Morgannwg pan fydd amser yn caniatáu.
Pam oeddech yn dymuno gwneud cais i Fwrdd PyC?
Pan oeddwn yng Nghomisiwn Coedwigaeth Cymru, gweithiais gyda Llywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu’r fferm wynt hon, ac rwyf bellach yn falch o fod wedi cwblhau’r cylch a chael y cyfle i ddefnyddio fy sgiliau a’m gwybodaeth i gefnogi’r gronfa gymunedol.
Pa sgiliau ydych chi’n meddwl rydych chi’n eu cynnig i Fwrdd PyC?
Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth, sicrhau bod gennym drefniadau llywodraethiant da, a phrosesau agored a thryloyw.
Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am Gronfa Gymunedol PyC?
Mae cyfle gwych i’r gronfa wneud gwahaniaeth trawsnewidiol i’r ardal fuddiant.
Yn eich barn chi, beth yw’r bygythiadau neu’r risgiau i lwyddiant y gronfa hon?
Y risg fwyaf yn peidio â meddwl yn ddigon mawr, i wneud gwahaniaeth go iawn.
Pe byddech yn deffro yfory fel anifail, pa anifail fyddech chi’n dewis bod a pham?
Mae’n debyg mai fy nghath achub, Ferris Mewler. Daeth hi o hyd i ni drwy fynd i fyw yn un o’n coed tua 7 mlynedd yn ôl. Ers iddi ein mabwysiadu ni, mae ei bywyd yn un o geisio dod o hyd i fannau heulog i gysgu ynddynt.
Pe baech yn sownd ar ynys anial, pa dair eitem fyddech chi am eu cael gyda chi?
O gymryd nad yw cwch mawr yn cael ei ganiatáu, byddwn yn gofyn am deledu i gadw mewn cysylltiad â’r byd ac i wylio chwaraeon. Fy iPad. Ac eli haul.