Mae Drysau’r Gronfa Weledigaeth ar Agor!

1024 691 rctadmin

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y Gronfa Weledigaeth bellach ar agor a gwahoddir Datganiadau o Ddiddordeb!

Mae’r Gronfa hon yn cynnig grantiau dros £5,000 (cyfalaf a/neu refeniw) i gefnogi gweithgareddau sy’n feiddgar, dychmygus, uchelgeisiol ac ychydig yn wahanol i’r arfer yn gyffredinol! Rydym yn chwilio am gynigion sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a chymunedau.
Gall cynigion ar gyfer y Gronfa Weledigaeth gael eu cyflwyno ar unrhyw adeg, a byddant yn cael eu hystyried gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn eu cyfarfod nesaf – dyma’r dyddiadau.

Mae’n hanfodol eich bod yn siarad â ni cyn cyflwyno eich cais. Os hoffech gael sgwrs gychwynnol, rydym yn cynnal pedair sesiwn galw heibio ar y dyddiadau canlynol:

1. Adeilad Venture Wales, Aberdâr – 12.04.2017
2. Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd, Glyn-nedd – 26.04.2017
3. Canolfan Pentre – Pentre – 09.05.2017
4. Neuadd Gymunedol Glowyr Gwynfi, Blaengwynfi – 16.05.2017

Anfonwch e-bost at enquiries@penycymoeddcic.cymru i neilltuo lle.