Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd wedi cefnogi busnesau ar draws Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon trwy fenthyciadau gwerth cyfanswm o £341,727 ers mis Hydref 2019

1024 1024 rctadmin

Rydym wedi cyflwyno Rhaglen Fenthyciadau fel rhan o’r Gronfa Gymunedol i fwyhau ein cynnig ariannu i gwmnïau sy’n masnachu o fewn ardal y Gronfa. Gellir defnyddio benthyciadau at unrhyw ddiben gan gynnwys twf ac ehangu, buddsoddi mewn asedau neu ofynion llif arian prosiectau cyhyd â bod eich gweithgaredd yn cyflwyno yn erbyn amcanion cyffredinol y Gronfa fel a ddisgrifir yn y Prosbectws Cymunedol.

Bydd y benthyciadau a gynigir a’r telerau ad-dalu (cyfnod a thâl llog a godir) yn hyblyg ac wedi’u teilwra i’ch anghenion unigol. Bydd eich anghenion cyllido’n cael eu trafod ar y dechrau fel y gallwch gynllunio’n briodol. Er mai benthyciadau yw ein hopsiwn ariannu blaenoriaethol ar gyfer cwmnïau masnachu, gan ddibynnu ar natur eich cynnig gallai cyfuniad o fenthyciad a grant gael ei ddarparu.

Mae Emily Kate wedi bod wrthi’n cynnig dillad ac ategolion ffasiynol yn Nhreorci, yng Nghwm Rhondda ers 2015. Dros amser mae’r busnes wedi tyfu’n aruthrol, gan ddenu cwsmeriaid o bob cwr o Dde Cymru, gyda mwy na 9000 o ddilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol. Yn dilyn y llwyddiant hwn a thros 12 mis o gynllunio, ganwyd Emily Kate Bridal Ltd, gyda’r bwriad o gystadlu â’r siopau priodasol yn ninasoedd mawrion Abertawe, Caerdydd a Bryste ond gan gynnig gwasanaeth mwy lleol a phersonol.

Bydd ehangiad y busnes, gyda chefnogaeth ar ffurf cyfuniad o grant a benthyciad o £22,926 gan Pen y Cymoedd, yn creu hyd at bum swydd newydd ar gyfer pobl yn yr ardal leol dros y ddwy flynedd gyntaf, a bydd yn cydweddu â’r busnesau sydd eisoes yn bodoli yn Nhreorci. Enwyd Stryd Fawr Treorci’n Stryd Fawr Orau y DU yn 2020 a gydag Emily Kate Bridal yn barod i agor tua diwedd 2020, mae Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd yn gyffrous i weld y stryd fawr yn ffynnu’n gwell byth wrth symud tuag at 2021.

Mae Capel Soar ym Mhenderyn, sy’n dyddio’n ôl i 1912, wrth wraidd cymuned Penderyn. Yn 2015, prynwyd y Capel gan Leigh a Daniel o Penderyn Furniture Company Ltd gyda rhai syniadau mawrion ar gyfer adfywio hen ddodrefn Gymreig, gan ddathlu symud i ffwrdd o daflu hen ddodrefn i ffwrdd a’i disodli â phethau newydd i ddod â chwa o awyr iach i’r hen drysorau Cymreig yma! Erbyn hyn mae Penderyn Furniture Company yn eu 5ed flwyddyn o fasnachu ar ôl ehangu eu gweledigaeth ymhellach i mewn i’r gymuned, gan gynnig caffi, hybu crefftwyr lleol a chefnogi Penderyn i fynd yn gyrchfan nodedig i dwristiaid. Cysyllton nhw â Pen y Cymoedd yn 2018 am gefnogaeth wrth drawsnewid rhannau allanol yr adeilad 100 oed i adlewyrchu’r trysorau Cymreig a gynigir y tu mewn iddo. Eu dadl hwy oedd y byddai hyn yn rhoi cyflogaeth ychwanegol i seiri lleol ac ar ben hynny cyflogaeth barhaus a mwy o ymgysylltiad cymunedol gan grefftwyr lleol. Roedd Pen y Cymoedd yn gyffrous i gefnogi’r gwaith adnewyddu hwn ar ffurf benthyciad hyblyg o £41,420. Gan weithio ar y cyd â Leigh a Daniel, pennodd Pen y Cymoedd delerau ad-dalu ffafriol i roi gwir gefnogaeth i lwyddiant y prosiect hwn.

 

Mae Sgwd Gwladys ym Mhontneddfechan wedi bod yn rym ysgogol dros dwristiaeth leol ers 2017. A hwythau’n dechrau gyda dim ond dau aelod staff fu’n cynnig teithiau tywysedig o amgylch yr ardal brydferth, maent yn awr wedi ehangu eu gweithrediad i gyflogi 10 aelod staff amser llawn, canolfan groeso gyda chaffi/bistro sydd, yn ogystal â chael cynnydd anhygoel yn nifer y twristiaid dros flynyddoedd diweddar, wedi gweld mwy o’r gymuned leol yn mwynhau eu cynnig.

Ar ôl haf anarferol o boeth yn 2018 a gosod ardal eistedd awyr agored, fe ddaeth yn amlwg bod angen gwella cyfleusterau cegin presennol Sgwd Gwladys. Yn ystod y cyfnod hwn roeddent yn cynnig hyd at 250 o brydau bob dydd ac yn dal i droi pobl leol a thwristiaid i ffwrdd! Gwnaeth Sgwd Gwladys gais i Pen y Cymoedd am gefnogaeth ariannol i wella’u cyfleusterau cegin, gan alluogi nhw i ddyblu eu cynnig i hyd at 500 o brydau bob dydd, cefnogi twristiaeth ychwanegol yn yr ardal a chyflogi hyd at 7 aelod staff pellach. Roedd Pen y Cymoedd yn gallu gweld budd y fath welliannau, a chefnogwyd Sgwd Gwladys gyda benthyciad hyblyg o £17,000 i’r gwaith hwn gael ei wneud yng Ngwanwyn 2019.

Mae SRCC Stores yng Cwm-gwrach yn fwy na siop gyfleus yn unig ym mhentref Cwm-gwrach. Yn 2015 bu iddynt sefydlu grŵp cymunedol nid er elw i ddod â’r gymuned ynghyd. Gan ddefnyddio’r siop gyfleus fel hyb canolog o fewn y gymuned, mae Cwmgwrach Moving Forward wedi trefnu digwyddiadau sinema gymunedol, diwrnodau hwyl i’r teulu am ddim a digwyddiadau cerddoriaeth i bob oedran yn y gymuned. Gyda gofod gwag yng nghefn y siop, roedd Cwmgwrach Moving Forward eisiau cynnig lle i bobl ddod ynghyd, mwynhau bwyd iachus o safon dda ac ar yr un pryd hybu twristiaeth yn yr ardal a chreu swyddi lleol i bobl leol. Roedd SRCC Stores eisiau addasu’r gofod gwag yng nghefn y siop i ddod â phobl ynghyd hyd yn oed yn fwy. Byddai’r bistro The Mine yn seiliedig ar thema pyllau glo’r ardal leol ac yn rhedeg nifer o weithgareddau cymdeithasol, yn darparu gofod i grefftwyr lleol arddangos eu gwaith ac yn hybu teithiau a llwybrau cerdded o fewn y gymuned. Mewn lleoliad cyfleus rhwng parc hamdden Cwm-gwrach a’r siop gyfleus, byddai ardal eistedd awyr agored yn gwneud hwn yn fwyty bistro croesawgar ar gyfer trigolion lleol a thwristiaid i’r ardal. Roedd Pen y Cymoedd yn falch o gefnogi The Mine gyda benthyciad hyblyg o £24,000 i ehangu’r busnes presennol, gan gynnig gwyliau ad-dalu sy’n gweddu i anghenion y busnes.

I ni mae’r Gronfa Gweledigaeth wedi bod yn llinell fywyd i lansio ein breuddwyd”