Agorodd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd am fusnes ym mis Rhagfyr 2016, gan gynnig ffynhonnell ariannu newydd a sylweddol ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Os ydych yn angerddol dros yr ardal hon, ac yn gyffrous am yr hyn y gall y Gronfa ei gyflawni – a hoffech chi ymuno â ni?
Rydym am benodi aelodau newydd i ymuno â’n Bwrdd ym mis Mehefin eleni.
Rydym yn croesawu ceisiadau’n benodol gan bobl sy’n byw neu’n gweithio yn ardal y Gronfa. Nid yw profiad blaenorol o fod yn aelod bwrdd neu ymddiriedolwr yn hanfodol – mae hyfforddiant ar gael.
Cynhelir tua 9 cyfarfod bob blwyddyn. Rydym yn ceisio sicrhau bod dyddiadau ac amserau cyfarfodydd yn hyblyg i alluogi cynifer o bobl â phosib i’w mynychu.
Mae aelodau’n gyfrifol am:
- sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau cyfreithiol a safonau llywodraethu uchel
- goruchwylio rheolaeth a chyfeiriad strategol y Gronfa o ddydd i ddydd
- sicrhau lefelau uchel o gyfranogiad gyda’r gymuned leol a budd-ddeiliaid.
- asesu a dyfarnu grantiau cymunedol
Y tâl cydnabyddiaeth yw £300 y dydd (pro-rata ar gyfer dyddiau rhannol), ynghyd â chostau teithio rhesymol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi’n ffurfiol ar 13.6.19 am gyfnod o 3 blynedd gyda’r potensial am 3 blynedd bellach.
Ffoniwch ni ar 01685 878785 am fwy o wybodaeth ac i ofyn am becyn gwybodaeth
Terfyn amser ar gyfer derbyn ceisiadau: 17.00, 4 Mawrth 2019
Cyfweliadau: Aberdâr, 15 Mawrth 2019