Hyfforddi gyda’n gilydd yn Nhreherbert – Grant Cronfa Weledigaeth: £22,561

943 449 rctadmin
Mae gan Glwb Rygbi Treherbert, a sefydlwyd ers dros 140 mlynedd, hanes glofaol hir. Caiff y clwb ei redeg gan wirfoddolwyr lleol er budd y gymuned leol. Mae’n chwarae rôl hollbwysig wrth wraidd bywyd pentref Treherbert, gan roi ffocws cymdeithasol bywiog ac annog a hyrwyddo rygbi fel gêm.
 
Tan nawr, roedd gan y clwb fynediad at un cyfleuster hyfforddi a chwarae yn unig, a gydag adrannau bach ac iau poblogaidd sy’n tyfu’n gyflym, roeddent yn prysur rhedeg allan o ardaloedd i gynnal sesiynau hyfforddiant a gemau ar gyfer y clwb cyfan.  Mae hynny ar fin newid. Gyda chymorth grant o £22,561 gan Gronfa Weledigaeth Fferm Wynt Pen y Cymoedd (ochr yn ochr â grant gan Undeb Rygbi Cymru o £15,000) bydd y clwb yn gallu creu ardal hyfforddi ddiogel newydd y mae mawr ei hangen gerllaw maes chwarae presennol y clwb. 
 
Dywedodd Rowley Pryse, Ysgrifennydd y Clwb, “Bydd y safle newydd yn dod â manteision rhyfeddol i aelodau presennol a newydd y Clwb – a bydd ysgolion a sefydliadau lleol eraill yn gallu defnyddio’r cyfleuster hefyd. Bydd yn ei gwneud yn bosibl i bobl o bob oed gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, gyda’r holl fanteision iechyd a llesiant sy’n cyd-fynd â hynny.”