Ym mis Mawrth, ymatebodd pen y Cymoedd yn gyflym i effaith y pandemig a dechreuodd gynnig grantiau a benthyciadau i sefydliadau a busnesau ar gyfer arian goroesi brys ac arian prosiect i ymateb i anghenion cymunedol.
Ers hynny rydym wedi dosbarthu dros £530,000 mewn arian ymateb COVID:
-£363,249.63 mewn cyllid goroesi i 51 o sefydliadau a busnesau cymunedol
-£167,435.56 i 23 o grwpiau i redeg prosiectau ymateb COVID
Wrth i’r cyfyngiadau godi ac wrth i bobl asesu sut olwg sydd ar fywyd, rydym wedi atal y cronfeydd argyfwng COVID. Mae Pen y Cymoedd am fod yn sicr bod digon o’r gronfa ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac yn gynnar i 2021 i gefnogi’r busnesau a’r sefydliadau presennol hynny y bydd angen cymorth arnynt.
Mae’r gronfa micro a’r gronfa Vision yn aros ar agor ac rydym yn annog pobl i gysylltu â’r tîm staff i drafod cyfleoedd ariannu.