Dewch i ‘ ymweld â Threorci ‘!

357 190 rctadmin
Rydym wrth ein bodd o allu cefnogi Siambr Fasnach Treorci a’r cylch gyda grant o £24,904 o’n Cronfa Weledigaeth ar gyfer y fenter ‘ Visit Treorci ‘. 
Mae’r grant yn gyfrwng i ddod â grwpiau cymunedol gweithgar a busnesau bywiog at ei gilydd, gyda’r nod o ddatgan wrth y byd pa mor wych yw Treorci, gan annog pobl i ddod i adnabod y dref fywiog a phrysur hon.
Mae Treorci wedi ffynnu yn ddiweddar, diolch i fusnesau annibynnol ac unigolion brwdfrydig. Er hynny, mae’n dal i wynebu heriau. Mae angen gweithio’n gyson er sicrhau parhad y ffyniant hon ac er datblygu ymhellach. Diolch i’n grant bydd cryn ddatblygu ar wefan Visit Treorci a fydd yn hyrwyddo busnesau, dros 50 o grwpiau cymunedol, a digwyddiadau o bob math. Bydd yn adnodd i bawb – yn breswylwyr ac yn ymwelwyr fel ei gilydd.
Bydd canllaw chwarterol ‘ What’s on ‘ yn cydfynd â‘r wefan, gan gynnwys digwyddiadau penodol yn y dref, straeon lleol a hysbysebu gan fusnesau lleol. Bydd y grant hefyd yn cyfrannu at oleuadau Nadolig.
 
Pob clod i’r Siambr Fasnach am ddod â’r gymuned at ei gilydd fel hyn – dymunwn y gorau iddyn nhw ac edrychwn ymlaen at weld Treorci’n tyfu ac yn ffynnu.