Cymorth ariannol gwerth £24,752.25 yn cael ei gynnig i EESW i gyflenwi Gweithdai Adeiladu Tyrbinau Gwynt mewn 30 o ysgolion yn ardal y gronfa

798 688 rctadmin

Mae’r prosiect hwn yn mynd i mewn i ysgolion ac yn cynnig  datblygu sgiliau trwy brofiadau dysgu ymarferol, gan helpu  myfyrwyr i feithrin sgiliau holl bwysig megis cynllunio, dadansoddi a gwerthuso drwy gyfrwng prosiectau ymarferol.

Mae ffocws y gweithdy ar ynni gwynt, a’i berthnasedd i gymuned leol Pen y Cymoedd, yn darparu cyd-destun dilys ar gyfer dysgu. Bydd myfyrwyr nid yn unig yn archwilio cysyniadau gwyddonol, ond hefyd yn cysylltu’r cysyniadau hyn â’r ardal o’u cwmpas, gan wella eu dealltwriaeth o arwyddocâd lleol o fewn y cyd-destun byd-eang ehangach.

Mae’r Gweithdy Tyrbinau Gwynt yn esbonio i ddisgyblion sut mae tyrbinau gwynt yn gweithio, a sut maen nhw’n cael eu hadeiladu trwy ddulliau peirianegol. Gan weithio mewn timau bach, mae disgyblion yn defnyddio citiau model o dyrbinau sy’n cynhyrchu ynni gwynt i adeiladu a mesur yr ynni a gynhyrchir. Trwy brofi ac addasu eu cynllun, bydd pob tîm yn cael y dasg o greu a recordio’r tyrbin gwynt mwyaf effeithol. Drwy gydol y gweithgaredd hwn bydd y disgyblion yn defnyddio sgiliau ymarferol a sgiliau datrys problemau, yn ogystal â dehongli data a chyflwyno syniadau.

“Mae EESW yn  falch iawn o dderbyn cyllid gan Pen y Cymoedd i gyflwyno’r prosiect hwn i bobl ifanc i ddangos iddynt y cyfleoedd sydd ar gael yn yr ardal leol.  Rydym yn gyffrous iawn i gael y cyfle i ymestyn ein gwaith allgymorth drwy weithio gydag ysgolion cynradd ac ysbrydoli disgyblion o oedran iau a dangos gwerth pynciau a sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.”- Rebecca Davies, Engineering Education Scheme Wales Ltd

“O ran y datblygiadau sydd ar y gweill gyda’r Cwricwlwm i Gymru, mae yna bwyslais cynyddol ar y rôl a chwaraeir gan wyddoniaeth yn y broses o siapio’r byd. Mae’r Gweithdy Tyrbinau Gwynt yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu’n uniongyrchol â gwyddoniaeth go iawn, wedi ei gwreiddio yn eu cymuned leol. Trwy weithio gydag ynni gwynt, gall myfyrwyr ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r egwyddorion gwyddonol sy’n tanategu ein byd modern.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.