CYMDEITHAS TWNNEL Y RHONDDA

1024 339 rctadmin

CYMDEITHAS TWNNEL Y RHONDDA

£3,750 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017

 

Dyma grŵp a phrosiect proffil uchel yng Nghwm Rhondda, sydd hefyd â chysylltiadau cryfion yng Nghwm Afan Uchaf. Mae’r aelodau pwyllgor yn angerddol dros botensial y Twnnel i gyfrannu at adfywio lleol a thwristiaeth – a cheir enghreifftiau da o hyn yn digwydd mewn lleoedd eraill. Mae ysgolion cynradd y Rhondda eisoes wedi cynnwys y Twnnel yn eu cwricwlwm.

Cyflawnwyd archwiliadau o’r Twnnel yn 2015 a 2016 a’r cam nesaf fydd arolwg peirianneg manwl ac astudiaeth dichonoldeb i gynorthwyo cyd-drafodaethau i drosglwyddo perchnogaeth ar y Twnnel o Highways England i gorff cyhoeddus yng Nghymru. Roedd y grŵp eisiau creu ffilm i hyrwyddo gweledigaeth y grŵp a gall ffilmiau fod yn ddull effeithiol iawn o gyfathrebu gweledigaeth – datblygodd CNC ffilm o’r awyr i ddangos sut y byddai’r ffordd i mewn i Aberystwyth yn edrych gyda rhodfa o goed a helpodd hyn i sicrhau cyllid.

“Erbyn hyn gall Cymdeithas Twnnel y Rhondda ddarparu cyflwyniad difyr a llawn gwybodaeth i bartïon sydd â diddordeb. Y nod yw codi ymwybyddiaeth o’r prosiect a cheisio’r gefnogaeth ehangaf bosib. . Mae’r fideo wedi’i roi ar YouTube ac rydym wedi’i gyflwyno i aelodau, mae wedi cael ei groesawu’n frwd ym mhob lle yr ydym wedi’i ddangos. Bydd y prosiect i ail-agor Twnnel y Rhondda’n darparu buddion uniongyrchol, byddwn yn ei ddangos i fudiadau a gwleidyddion Ewropeaidd y mis nesaf ym Mrwsel. Diolch i Gronfa Pen y Cymoedd am helpu ni i wneud y fideo hwn a gaiff ei ddefnyddio i werthu gweledigaeth prosiect y twnnel i ddenu buddsoddwyr.”Lesley Crewe Cymdeithas Twnnel y Rhondda

“mae hwn yn anhygoel, unwaith eto rwyf wedi fy syfrdanu gan yr ymdrech, ymroddiad a brwdfrydedd dros y prosiect hwn. Gall hwn wneud gwir wahaniaeth ac mae’r fideo’n dangos hynny’n glir” – Sylw ar Facebook