Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn darparu ariannu brys ar garlam ar gyfer sefydliadau yn ardal y Gronfa. Mae dau edefyn:
•Y Gronfa Goroesi: darparu cyllid llif arian brys ar gyfer sefydliadau sydd mewn perygl o gau i lawr
•Y Gronfa Prosiectau: cefnogi gwasanaethau ychwanegol sy’n diwallu anghenion cymunedol yn y dyfodol agos iawn
Yn y pythefnos cyntaf rydym wedi cefnogi 10 sefydliad gyda chyfanswm o £12,858.09 gan y Gronfa Goroesi a 6 sefydliad gyda chyfanswm o £51,719.63 gan y Gronfa Prosiectau
Ni fydd ein hariannu’n disodli unrhyw gefnogaeth arall sydd ar gael gan y Llywodraeth – byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym ba gefnogaeth arall rydych wedi ymchwilio iddi neu y byddwch yn ei derbyn o bob ffynhonnell arall, a byddwn efallai yn eich cyfeirio tuag at gefnogaeth ariannu arall sy’n fwy perthnasol a phriodol. Bydd y broses ymgeisio mor syml ag y gallwn ei wneud ac fel arfer bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud a’r arian ei ryddhau o fewn 7 niwrnod.
Cysylltwch â’r tîm Pen y Cymoedd nawr os ydych eisiau trafod y cynlluniau ariannu hyn – enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch ni ar 07458 300123
Bu’n bleser mawr i ni weld ceisiadau newydd i’r Gronfa Prosiectau gan sefydliadau sy’n ymateb yn greadigol i anghenion brys y gymuned ac yn cefnogi eu cymunedau yn y cyfnod hynod anodd hwn. Hyd yma, rydym yn falch o fod wedi cefnogi:
- Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan – grant o £13,176.00 ar gyfer gwasanaeth cludo bwyd
“Rydym wedi trawsnewid adeilad y llyfrgell gymunedol i Hyb Cymorth Cymunedol. O’r adeilad hwn rydym yn:
-
Darparu cefnogaeth a chydlyniad ar draws Cwm Afan uchaf ar gyfer gwirfoddolwyr sydd am gefnogi’r rhai y maent yn hunanynysu gartref;
-
Darparu gwasanaethau cefnogi hanfodol i bobl arunig gan ddefnyddio tîm o wirfoddolwyr a recriwtiwyd yn arbennig – yn y lle cyntaf bydd y tasgau’n cynnwys prynu a chludo bwydydd ac eitemau cartref, prydau wedi’u coginio a chasglu presgripsiynau;
-
Ailagor y banc bwyd sydd wedi gweithredu yn y cwm ers nifer o flynyddoedd hyd at yr wythnos ddiwethaf pan fu’n rhaid iddo gau.”
-
Undeb Credyd Dragon Savers – grant o £15,000.00 ar gyfer cynllun benthyciadau brys
“Mae’r prosiect yn gynllun benthyciadau gwarantedig i helpu unigolion i gyrchu credyd tymor byr am gost resymol. Ar hyn o bryd mae ein polisi benthyciadau’n mynnu bod y blaendal cyntaf sy’n hafal i ad-daliad y benthyciad yn cael ei wneud cyn y rhyddheir yr arian. Os yw rhywun yn aros i’w incwm arferol ddod i mewn neu’n defnyddio incwm presennol i dalu am eitemau brys er mwyn hunanynysu, mae hyn yn rhwystr i roi benthyg. Mae’r risg i’r sefydliad yn rhy fawr i ni roi benthyg heb wybod bod yr ad-daliad wedi’i sefydlu. Cynilion aelodau eraill yw cyfalaf y benthyciad. Byddai’r grant hwn yn lliniaru’r risg hon a galluogi ni i ryddhau cyllid ar unwaith, gan helpu’r rhai sydd mewn angen mwyaf.”
-
Grŵp Cyfranogiad Meddygfa Cwm Nedd – grant o £4,000.00 ar gyfer ardal gyrru trwodd ‘Goch’
“Mae gan y Feddygfa tua 10,000 o gleifion, yn bennaf o gymunedau Glyn-nedd, Cwmgwrach, Resolfen a Phontneddfechan. Mae’n gweithredu o Ganolfan Iechyd Cwm Nedd sydd newydd agor yn Aberpergwm, a’r mantais yno yw mynediad rhagorol a maes parcio mawr. Sefydlwyd y Grŵp Cyfranogiad Cleifion er mwyn darparu cyswllt cymunedol cynrychiadol ar gyfer y Feddygfa, ac yn y gorffennol mae’r grŵp hwn wedi cwblhau nifer o brosiectau llwyddiannus sy’n darparu gwasanaethau cefnogi i Feddygfa Cwm Nedd. Bydd y prosiect yn cyflwyno cyfleuster meddygol ychwanegol a fydd yn galluogi cleifion i gyrchu gwasanaethau meddygol sy’n benodol i’r pandemig Coronafeirws, a hynny yng nghysur a diogelwch eu cerbydau eu hunain. Bydd y canopi gyrru trwodd gyda gofod gweithio mewn “cabanau” cyfagos ar wahân yn gyfan gwbl i adeilad y Ganolfan Feddygol, gan alluogi cleifion yr amheuir bod ganddynt y feirws COVID-19 i dderbyn gofal meddygol hanfodol mewn parth wedi’i harwahanu o dan reolaeth – gan ostwng y risg o draws-heintio cleifion eraill ac aelodau staff y feddygfa.”
- SNAP Cymru – grant o £12,670.00 i ddarparu cefnogaeth argyfwng i deuluoedd sy’n agored i niwed
“Mae’r rhan fwyaf o blant sydd ag Anghenion Ychwanegol ac Anableddau mewn dosbarthiadau prif-ffrwd heb gefnogaeth 1:1 benodedig ac nid ydynt yn gymwys i fynd i’r ysgol ar hyn o bryd. Byddwn yn gallu prynu cyfarpar ac adnoddau hanfodol i gynyddu ein galluedd a darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol. Bydd lleisiau cyfeillgar, clustiau sy’n gwrando, pobl yr ymddiriedir ynddynt sydd â gwybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol, yn helpu teuluoedd sydd â gofidion a phryderon, gan weithio ar y cyd i leihau straen a gorbryder. Strwythuro amser a gweithgareddau, dod o hyd i’r adnoddau iawn, adnabod cefnogaeth leol, cael caniatâd, atgyfeiriadau lleol am gymorth ymarferol trwy gysylltu â phartneriaid fel eu gweithiwr allweddol. Ein llwyth gwaith achosion presennol yw tua 300 o deuluoedd i bob gweithiwr ac mae hyn yn anghynaliadwy yn y cyfnod cau i lawr hwn gan fod angen nid yn unig cyngor a chefnogaeth ar deuluoedd ond hefyd adnoddau yr ymchwilir iddynt yn briodol sy’n addas ar gyfer oedrannau a galluoedd y plant a phobl ifanc. Mae gennym staff eisoes sydd wedi’u hyfforddi mewn cefnogaeth ymddygiad cadarnhaol a all helpu rhieni trwy strategaethau a chefnogi nhw i ddefnyddio’r rhain i geisio llonyddu anawsterau cyn iddynt waethygu.”
- SRCC Stores – grant o £5,000.00 i gyfrannu at brynu fan
“A ninnau’n cyflwyno gwasanaeth allweddol ar gyfer pobl sy’n hunanynysu ac mewn angen trwy’r Pandemig hwn, rydym eisiau i bobl aros gartref a bod yn ddiogel. Mae Cwmgwrach Stores wedi bod yn cludo bwydydd, ffrwythau, llysiau a chig ffres i drigolion Cwmgwrach a Glyn-nedd ers diwrnod cyntaf yr argyfwng COVID-19. Ar hyn o bryd rydym yn cwblhau hyd at 25 o gludiadau bob dydd – i bawb – yr ifanc a’r hen fel ei gilydd. Rydym hefyd wedi dechrau cludo i’r Rhigos ar ddydd Mawrth a dydd Gwener ac eto, rhywbeth fel 10-12 o gludiadau y diwrnod. Rydym wedi cael llawer o geisiadau o Resolfen ac mor bell i lawr â’r Clun, ar hyn o bryd ni allwn helpu oherwydd logisteg. Bydd cael ein fan ein hunain yn agor byd o gyfleoedd i fyny, gan arbed amser a galluogi ni i fod yn fwy cynhyrchiol, cynnig cyflogaeth ychwanegol a chyrraedd ymhellach o lawer.”
- The Refreshment Rooms – grant o £1,873.63 ar gyfer gwasanaeth cludo bwyd newydd
“Yn anffodus caeodd ein busnes i lawr oherwydd Covid19 – fodd bynnag gan fod traean o’n busnes yn seiliedig ar fwyd, cysylltwyd â ni dros yr wythnosau diwethaf i ofyn a allwn gynorthwyo’r bobl yn yr ardal sy’n fwy agored i niwed trwy ddarparu gwasanaeth cludo bwyd, a hefyd bu galw mawr am wasanaeth bwyd a diod parod cyffredinol. Gan ein bod yn fwyty sefydledig gall yr elfen arlwyo ddigwydd yng nghegin The Refresh, mae gennym radd 5* yn barod a system rota staff fel y bydd modd cyflawni’r trawsnewidiad yn hwylus. Ar ôl llunio cynllun busnes manwl rydym yn hyderus y gallwn weithredu gwasanaeth cludo/gadael a mynd yn yr ardaloedd lleol.”