CYFLOGAETH I BAWB
CYMDEITHAS GYMUNEDOL CWMPARC
Gyda’r grant hwn roedd y Neuadd Gymunedol yn gallu cyflogi gwirfoddolwr lleol i weithio am 20 awr yr wythnos yn eu Cyfleuster Caffi Cymunedol i alluogi’r Ganolfan i estyn oriau agor a darparu gwasanaeth cludfwyd cartref cynyddol i’r henoed a phobl llai abl yn y gymuned.
Hyfforddwyd yr aelod staff newydd mewn Hylendid Bwyd gan y ganolfan ac mae’n gweithio gyda Rheolwr y Caffi i ddarparu amrywiaeth o fwyd am gost isel bob dydd. Roedd y Caffi’n gorfod cau weithiau oherwydd diffyg staff, gydag effaith andwyol ar ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar y cyfleuster ar gyfer eu prydau bob dydd ac ar incwm y Ganolfan. Y Gymdeithas yw’r unig gyfleuster cymunedol o’r fath yng Nghwmparc ac mae prisiau wedi’u pennu i sicrhau ei bod yn fforddadwy i drigolion lleol – mae llawer o bobl yn ymweld bob dydd am bryd o fwyd ac i gymdeithasu. Yn ogystal â darparu gwasanaethau lleol, cyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli, mae’r grŵp hefyd yn cynnig hyfforddiant Hylendid Bwyd am ddim i’r gymuned.
Cyflogon ni wirfoddolwr lleol i alluogi’r Ganolfan i estyn yr oriau agor a darparu gwasanaeth cludfwyd cartref cynyddol. O ganlyniad i’r prosiect, cyflawnwyd cynnydd mewn refeniw yn y caffi. Dechreuom ddarparu cinio dydd Sul hefyd, a’i gludo i’r henoed a phobl llai abl yn y gymuned. Mae hyn wedi profi i fod yn un o’n dyddiau mwyaf llwyddiannus. Galluogodd y grant hwn gan y Gronfa Grantiau Bychain i ni gyflogi rhywun am 20 awr yr wythnos ac fe helpodd ni i sicrhau cyllid ychwanegol am 10 awr i gyflogi’r person hwnnw am 30 awr yr wythnos. Gyda’r prosiect wedi’i gefnogi gan y grant bellach yn dod i ben, oherwydd cynnydd mewn gwasanaeth ac yn refeniw y caffi rydym wedi llwyddo i gynnal cyflogaeth yr aelod staff o fewn y caffi, sy’n anhygoel.” – Joanne Jones, Cymdeithas Gymunedol Cwmparc.
Rydym mor falch bod helpu ariannu cyflogaeth gweithiwr ychwanegol wedi helpu nhw i ddarparu gwasanaethau newydd, estyn oriau agor a chynyddu refeniw y Ganolfan Gymunedol, ac ar ben hynny, arwain at gyflogaeth barhaus ar gyfer rhywun lleol. Dymunwn bob llwyddiant parhaus iddynt. – Kate Breeze, Pen y Cymoedd