Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd gefnogi’r busnes addysg cerddoriaeth Hot Jam gyda grant o’r Gronfa Weledigaeth am £22,392.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd 4,000 o bobl ifanc rhwng 3-14 oed mewn 30 o ysgolion ar draws ardal buddiant y Gronfa yn gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai cerddoriaeth a chyfansoddi caneuon – a hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dywedodd y cerddor proffesiynol a chrëwr Hot Jam, Andy Mulligan, “Byddwn yn mynd â band 4 darn (lleisydd, gitâr, gitâr fas, allweddellau a drymiau) i mewn i ysgolion i ddarparu cyngherddau cyffrous a gweithdai ar draws amrywiaeth eang o genres cerddoriaeth – jazz, gwerin, pop a roc. Bydd disgyblion yn gallu cymryd rhan trwy ganu, offerynnau taro a symud a bydd rhai yn cael cyfle i chwarae ein hofferynnau. Bydd pawb yn dysgu beth yw hanfod cyfansoddi caneuon a gwneud gwaith byrfyfyr.”
Gyda’r ddarpariaeth cerddoriaeth mewn ysgolion yn lleihau, bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddarganfod doniau nad oedden nhw’n gwybod eu bod ganddynt ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn rhagor o weithgareddau cerddoriaeth – gyda’r gobaith o hybu aelodaeth corau a bandiau yn y blynyddoedd i ddod.
Pam y cefnogwyd y cais hwn?
-
Mae’n cynnwys datblygu sgiliau, magu hyder a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer pobl ifanc – gan ddarparu cyfleoedd am gyfranogiad sydd nawr yn brin mewn ysgolion
-
Bydd caneuon Cymraeg a thraddodiadau cerddorol yn rhan o’r gymysgedd gerddorol
-
Bydd artistiaid llawrydd lleol yn cael eu cyflogi i ddarparu’r sesiynau gweithdy