PYC – HELPU BUSNESAU I DDATBLYGU A THYFU BUSY PINS & NEEDLES – DYSGU GWNÏO

717 491 rctadmin

Mae BUSY PINS & NEEDLES yn siop ffabrigau deuluol wedi’i lleoli yn Aberdâr. Nid yn unig y maent yn cynnig ystod eang o gyflenwadau crefft, ond maent hefyd yn defnyddio’r cyflenwadau hyn i greu creadigaethau trawiadol ac arbennig sy’n unigryw i’w siop. Maent yn darparu detholiad helaeth o ffabrigau, gwlân, a chyflenwadau gwau, ynghyd â hanfodion gwnïo. Mae eu staff yn wybodus ac yn brofiadol iawn, a gallant gynnig cyngor wedi’i deilwra i gwsmeriaid sydd angen help.

Cefnogodd PYC Busy Pins and Needles gyda grant Cronfa Micro o £6,500 i gynorthwyo gydag ehangu’r busnes o gynhyrchion a gwasanaethau manwerthu i wasanaethau addysgol a grwpiau crefft a all fod o fudd sylweddol i’r gymuned. Maent yn cynnig cysylltiadau cymdeithasol, cyfeillgarwch, cefnogaeth ymarferol, a chefnogaeth emosiynol i wella bywydau pobl a hefyd yn rhoi sgiliau gwerthfawr i gwsmeriaid y gallant eu defnyddio yn y byd gwaith ac o bosibl greu cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae’r siop wedi’i lleoli yn 21 Stryd Canon, Aberdâr, CF44 7AP, ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (09:00 i 17:00) a dydd Sadwrn (09:30 i 16:30), ac mae ganddi siop ar-lein hefyd.

“Mae ein prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda phobl yn dod i’n siop ac yn dysgu gwnïo. Rydym wedi cael pobl â gwahanol raddau o wybodaeth flaenorol am wnïo yn dod atom am arweiniad, rhai â phrofiad helaeth, ond heb gael cyfle i ddefnyddio eu peiriannau ers tro ac eisiau un neu ddwy wers atgoffa; a hefyd rhai pobl sy’n ddechreuwyr llwyr sydd wedi mynd ymlaen i greu darnau anhygoel. Rydym hefyd wedi cael pobl o ystod o ddemograffeg ac oedrannau, gyda’n ieuengaf yn dysgu ar beiriant gwnïo yn ddim ond 7 oed.

Mae un o’n myfyrwyr a ddysgodd sut i ddefnyddio’r peiriant, sut i wnïo â llaw, rhai technegau gwneud dillad, a sut i newid dillad bellach wedi dechrau gwneud newidiadau ei hun yn cynnig ei wasanaethau i’w ffrindiau hefyd.

Er bod rhai pobl yn dod atom yn ansicr ynglŷn â’u perthynas â gwnïo, mae rhai’n gwneud ychydig o wersi ac yn penderfynu nad yw at eu dant nhw; mae llawer o’n myfyrwyr yn hapus ac wedi dysgu rhai sgiliau newydd y gallant eu hychwanegu at eu CVs, rhestrau hobïau ac y gallant eu cymryd gyda nhw i astudiaethau neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Rydym wedi dysgu trwy wneud hyn, serch hynny, fod yn well gan y rhan fwyaf o bobl wersi gwnïo ar sail un i un, ac nid mewn grŵp, gan eu bod yn teimlo bod ganddynt fwy o amser a sylw yn cael ei dreulio yn eu helpu gyda’u hanghenion penodol tuag at eu prosiectau penodol pan mai dim ond nhw eu hunain a’r athro sydd yn y wers. Oherwydd bod mwyafrif helaeth iawn yn teimlo fel hyn, fe benderfynon ni’n ddiweddar, ar ôl cryn amser o ystyried, leihau nifer y dosbarthiadau grŵp sydd ar gael a chanolbwyntio ein sylw ar gynllunio, trefnu a chynnal sesiynau un-i-un.

Rydym mor falch o’r hyn y mae ein myfyrwyr wedi’i gyflawni.” – Charlotte Drinkwater, Rheolwr Busy Pins & Needles

Mae PYC yn dymuno llwyddiant parhaus i’r cwmni yn y dyfodol a gellir dod o hyd iddynt ar y we https://www.busypinsandneedles.co.uk/ neu gelli eu ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol:

Facebook
https://www.facebook.com/busypinsandneedles

Instagram
https://www.instagram.com/busypinsandneedles/