Yn ôl yn 2022 fe wnaethon ni ariannu Kieran, gweithiwr creadigol lleol gyda grant Cronfa Meicro bach pan gafodd y syniad o greu sioe gerdd
Caniataodd y cyllid iddo ddatblygu’r sgript, y gerddoriaeth, recriwtio actorion a llwyfannu perfformiad arddangos yn y Parc a’r Dâr. Bwriad y cyfnod hwn yw mynd â’r sioe i gynhyrchiad llawn ar gyfer tri pherfformiad o fewn prif awditoriwm y theatr leol, y Parc a’r Dâr, Treorci.
Trwy barhau i weithio gyda busnesau lleol byddant yn llwyfannu perfformiadau untro gan ddefnyddio cerddorion lleol er mwyn hyrwyddo’r sioe a chynyddu niferoedd y gynulleidfa. Nod hirdymor hyn yw adeiladu ar y bwrlwm a grëwyd ganddynt yn ystod cam cyntaf y datblygiad a gwahodd cynhyrchwyr o’r tu allan i’r ardal i mewn i weld y sioe gyda’r bwriad o roi bywyd arall iddi drwy Gymru a thu hwnt fel cynhyrchiad teithiol masnachol.
“Mae ‘Turning the Wheel’ yn sioe theatr gerdd wreiddiol a gafodd ei dechrau yn y gymuned, a’i chreu yng Nghwm Rhondda Uchaf, gan bobl y Rhondda Uchaf ac ar eu cyfer, ac sydd wedi cael ei thyfu a’i datblygu ers hynny yn y Rhondda Uchaf. Bydd y cyllid hwn gan Ben y Cymoedd yn ein helpu i daflu goleuni cadarnhaol ar ein treftadaeth, iaith, diwylliant, cymuned a hanes. Diolch yn fawr iawn PyC” – Kieran Bailey
“Cafodd y gynulleidfa eu swyno’n llwyr, nid yn unig gan ansawdd y cynhyrchiad, ond hefyd gan broffesiynoldeb y cerddorion ac aelodau’r cast ac yn haeddiannol felly, fe enillon nhw gymeradwyaeth sefydlog. Rhaid nodi’r effaith gadarnhaol y mae’r cynyrchiadau hyn yn ei chael ar yr Iaith Gymraeg, lle roedd Kieran yn defnyddio darpariaeth ddwyieithog yn llwyr.” – Y Cynghorydd Bob Harris Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau
“Ers cenedlaethau, dysgwyd hanes eu cyndeidiau glofaol i blant y Rhondda, a sut y gwnaeth Rhondda helpu i roi Cymru a Phrydain Fawr ar y map. Boed hynny mewn ystafell ddosbarth trwy werslyfrau, teithiau i’r Parc Treftadaeth a Phwll Mawr i’r gwythiennau 4 troedfedd, neu i Sain Ffagan i brofi sut beth fyddai bywyd mewn hen dai teras; bydd cenedlaethau o’n blaenau a chenedlaethau i ddod yn parhau i ddysgu sut beth oedd realiti. Ond, ychydig iawn fydd wedi profi’r hanes hwn yn dod yn fyw trwy gân a pherfformiad.
Cefais y pleser o fynychu’r perfformiad cyntaf, a hyd yn hyn, yr unig berfformiad o sioe gerdd “Turning the Wheel” yn y Parc a’r Dâr. Nid wyf erioed wedi profi na gweld cynrychiolaeth mor gywir a difyr o’n hanes pwysig. Ynghyd â’r gynulleidfa o aelodau’r gymuned leol, hyd yn oed gyda’r wybodaeth a gasglwyd dros y blynyddoedd a fu, roedd y perfformiad yn gyfareddol, ac yn wirioneddol gipio’r gwaed, y chwys, y dagrau, y llawenydd, y dewrder, y torcalon, a’r balchder a deimlwyd yn ystod y chwyldro diwydiannol. Fe wnaethon ni chwerthin, crio, a dysgu yn ystod y perfformiad byr.” – Buffy Williams Aelod o’r Senedd dros y Rhondda
Mae’r prosiect hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, CBS RhCT, busnesau lleol a noddwyr. Roeddem am gefnogi a bod yn brif gyllidwr gan ein bod yn credu bod hwn yn gyfle cyffrous i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant lleol, dileu rhwystrau ac ehangu mynediad i weithgareddau diwylliannol a chefnogi sgiliau creadigol lleol a chyfleoedd cyflogaeth, gan feithrin ac annog pobl greadigol i fyw a gweithio’n lleol