Yn ôl ym mis Ebrill 2022 cefnogwyd Blociau Adeiladu Resolfen gyda chyllid 1 blynedd i ddarparuprosiect T Growth & Mindset yn Afan a Chymoedd Castell-nedd.Wedi blwyddyn gyntaf lwyddiannus a llawer o waith i ddangos angen a galw am wasanaeth i barhau rydym yn falch iawn ein bod wedi cytuno ar 3 blynedd arall o £144,964.52.Mae’r prosiect yn cynnig gwasanaeth yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anableddau a’u teuluoedd, a heb anableddau. Maent yn gweithio gyda phlant rhwng 0 a 12 oed i’w helpu i ail-adeiladu eu gwytnwch emosiynol, hunan-barch a’u hyder sydd wedi’i chwalu gan y pandemig.Bydd y prosiect yn cefnogi’r canlyniadau canlynol ac yn cefnogi costau staff yn uniongyrcholgan gynnal 4 swydd yn Resolfen.
Plant i ddatblygu sgiliau i reoli eu lles meddyliol eu hunain a rheoleiddio eu hemosiynau gan ddefnyddio technegau ymwybyddiaeth ofalgar a dysgwyd drwy fynychu’r rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar
Plant ag anableddau i weithio tuag at well cerrig milltir datblygu plant, sgiliau cymdeithasu, trwy fynychu darpariaeth ymroddedig un i un ddarpariaeth cymorth a gwella eu hyder, hunan-barch a gwydnwch emosiynol a llai o bryder ynghylch gwahanu oddi wrth rieni trwy fynychu’r gwasanaeth cymorth un-i-un.
Teuluoedd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth ar sut i weithredu cymorth i’w plant gartref drwy wasanaeth cyngor, arweiniad, a chymorth penodol
“Rydym yn falch iawn o barhau i weithio gyda Pen y Cymoedd a bydd derbyn yr arian hwn yn golygu y bydd y prosiect hwn yngweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, sefydliadau cymunedol a theuluoedd trwy gynnig rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar a fydd yn helpu plant i ddeall pwysigrwydd nid yn unig gofalu am eu corff corfforol ond eu lles meddyliol hefyd. Mae hunan-ofal emosiynol yn hanfodol i’n helpu ni i feithrin gwydnwch, a bydd y prosiect hwn yn ceisio cyflawni hyn. Ry’n ni hefyd yn rhoi cefnogaeth i blant gydag anableddau a’u teuluoedd ac yn enwedig ar ôl y pandemig ry’n ni wedi gweld cynnydd mewn gorbryder, plant ar wahân i’w teuluoedd ac oedi pellach ar ddatblygu. Felly, byddwn yn gweithio gyda theuluoedd a phlant i sicrhau eu bod yn derbyn cymorth arbenigol ac wedi’i deilwra un i un cymorth i helpu i adeiladu gwytnwch emosiynol, hunan-barch a hyder plant ac ochr yn ochr â’r ffaith bod hwn yno i’r teuluoedd gyda chyngor a chefnogaeth sydd ei hangen arnynt”Mae Blociau Adeiladu yn sefydliad sefydledig sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac yn fwy diweddar yn darparu cefnogaeth bwrpasol i blant ag anableddau a’u teuluoedd. Trwy gydol COVID fe wnaethon nhw barhau i addasu eu gwasanaeth i ddiwallu anghenion newidiol y gymuned.