Newyddion

Get the latest from Pen Y Cymoedd CIC

Newyddion

PyC yn falch iawn o gyhoeddi cymorth ariannol 3 blynedd i Tempo Time Credits ar gyfer rhaglen newydd Cynon Valley Credits

496 529 rctadmin

Bydd y cyllid o £127,260 dros 3 blynedd yn galluogi Tempo i ddatblygu prosiect gwirfoddoli blaenllaw yng Nghwm Cynon, gan gynnig cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac agored i niwed, unigolion o oedran gweithio, a phobl ifanc gymryd rhan mewn gwirfoddoli cymunedol ac ymgynghori. Bydd y cyllid yn creu rôl Swyddog Datblygu amser llawn…

Dyfarnu £23,951 i Glwb Rygbi a Chlwb Criced Resolven i osod Paneli Solar, System Storio Batris, a Phwyntiau Gwefru EV.

581 683 rctadmin

Cysylltodd Clwb Rygbi a Chlwb Criced Resolven â’r gronfa i wneud cais am gyllid i osod Paneli Solar, System Storio Batris a Phwyntiau Gwefru EV – materion a nodwyd fel blaenoriaethau i’r clwb yn dilyn Arolwg Ynni a gynhaliwyd ganddynt. Roedd y clwb eisoes wedi gweithredu’r holl fesurau brys a nodwyd gan yr arolwg, ac…

Canlyniadau Rownd 16 y Gronfa Micro

1024 576 rctadmin

Roeddem wrth ein bodd o dderbyn dros 105 o geisiadau ac rydym wedi gallu cynnig grantiau i 40 o fusnesau a grwpiau cymunedol ar draws ardal y gronfa, gan fuddsoddi £149,832.05 arall yn y gymuned leol. Rydym yn dymuno pob Ilwyddiant i’r holl sefydliadau a busnesau gyda’u gweithgaredd. Mae’r rownd nesaf yn agor ym mis…

Rôl Newydd Shayla

923 695 rctadmin

Ymunodd Shayla â’r gronfa yn 2021, a bellach mae ei rôl wedi newid i fod yn Swyddog Cefnogi’r Gronfa dros y Gymuned. Mae Shayla wedi dangos ei bod yn angerddol dros weithio gyda’r gymuned a’r trydydd sector, a bydd yn darparu cyngor ac arweiniad o’r radd flaenaf, yn arwain ar reoli grantiau bychan i grwpiau…

Cyflwyno ein haelod newydd o’r staff – Guy Smith

683 580 rctadmin

Mae Guy yn ymuno â ni fel Rheolwr Cyllid a Chronfa, gyda ffocws ar redeg y gronfa a chefnogi mentrau sy’n gwneud cais am gymorth. Mae gan Guy flynyddoedd o brofiad yn cefnogi’r trydydd sector, ynghyd ag angerdd dros ddatblygu cymunedol yn gyffredinol, ac mae’n edrych ymlaen at ymuno â’r gronfa. Bydd Kate, Holly a…

Afan Lodge

750 564 rctadmin

Afan Lodge   Heddiw, gallwn ni gadarnhau fod ein proses ymgynghori gyda’r staff yn Afan Lodge wedi dod i ben. Nid oes ateb ymarferol wedi ei chanfod i achub y busnes fel y mae’n gweithredu ar hyn o bryd, ac felly, bydd Afan Lodge yn cau i’r cyhoedd ar Ddydd Sul 3ydd Tachwedd. Diwrnod olaf…

Rhaglen Cyflymu Twf Busnes newydd a chyffrous yn derbyn grant o £26,000 gan Ben y Cymoedd

436 548 rctadmin

Bydd ICE Cymru yn cyflwyno rhaglen 4-mis yn rhannau uchaf cymoedd Rhondda a Chynon gyda’r nod o gefnogi busnesau yn y cam holl bwysig hwnnw rhyw flwyddyn neu ddwy ar ôl eu sefydlu. Yn aml iawn, hwn yw’r cam lle mae busnesau’n cael problem gyda chynllunio beth i’w wneud nesaf, a bydd y rhaglen cymorth…

Llwyddiant Benthyciadau PyC: Grymuso Busnesau i Gyflawni’n Uwch

1024 560 rctadmin

Dechreuon ni ddarparu benthyciadau i gwmnïau proffidiol yn 2019 gyda’r nod o ailgylchu arian yn ôl i’r gymuned. Mae ein benthyciadau weithiau’n cael eu cynnig fel benthyciad 100% ac weithiau’n cael eu cynnig fel cymysgedd o grant yn rhannol gyda’r mwyafrif yn fenthyciad. Gan ychwanegu benthyciadau achub COVID-19, rydym bellach wedi rhoi cyfanswm o 27…

Dyfarnu £393,240.10 i Brosiect Trawsnewid Parc Lles y Glowyr, Glyn-nedd

1024 723 rctadmin

Pan ddaeth Cyngor Tref Glyn-nedd atom ni fel cronfa gyda’u cynllun i drawsnewid Parc Lles y Glowyr, Glyn-nedd yn gyrchfan ddeniadol trwy adeiladu ar botensial cyfleusterau sydd ar gael eisoes ac ychwanegu rhai newydd a fyddai’n gwasanaethu’r gymuned leol a Chwm Nedd am flynyddoedd lawer i ddod, roeddem yn gyffrous iawn. Yn hytrach na mabwysiadu…

Cyhoeddiad

150 150 rctadmin

Heddiw, rydym yn drist iawn i gyhoeddi ein cynnig i gau Afan Lodge ar ddydd Llun 4ydd Tachwedd, yn dilyn cyfnod ymgynghori o 30 diwrnod gyda staff Afan Lodge.   Yn 2019 prynodd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd (PyC CIC) Afan Lodge i achub y busnes er budd Cwm Afan a chymunedau ehangach.…