CÔR MENYWOD DARE TO SING – YMLAEN AC I FYNY

960 960 rctadmin

CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £1,720.00

Sefydlwyd Côr Merched Dare to Sing yn 2015 yng Nghwmdâr ac erbyn hyn mae mwy nag 80 o aelodau. Gofynnwyd i aelodau beth maent yn ei fwynhau am y côr, ac roedd y sylwadau a gyflwynwyd gyda’r cais yn deimladwy:

–           Fel llawer o’r menywod, wedi bod drwy ganser, pan rydych chi’n canu dydych chi ddim yn meddwl am ddim byd, mae mor bositif.

Y peth gorau y gallaswn fod wedi’i wneud ar ôl colli fy ngŵr oedd ymuno â’r côr, mae wedi fy helpu i ddod trwy adeg anodd iawn.

–           Rwyf wedi bod wrth fy modd yn cael bod yn aelod o’r côr o’r diwrnod cyntaf, ond wnes i fyth ddychmygu y byddai’n rhoi’r fath ymdeimlad o falchder, boddhad a pherthyn i mi.

Roedd y cais yn seiliedig ar dystiolaeth a ystyriwyd yn dda a gwnaed dyfarniad rhannol ar gyfer costau cyfrifiadur ac offer sain.

“Mae’r gliniadur wedi bod yn fendith ac mae’r system gyfrifyddu a osodwyd wedi helpu’r trysorydd ac yn gyffredinol mae’r holl gofnodion, gwaith papur a chofnodion aelodaeth nawr yn ddiogel a wedi’u cofnodi yn gywir. Rydym wrthi’n sganio yr holl bosteri archif, rhaglenni a lluniau archif a bydd hyn yn ei wneud yn llawer haws cynhyrchu cylchlythyrau a deunydd hyrwyddo a sicrhau bod gwybodaeth y grŵp yn ddiogel ac ar gael waeth pwy yw aelodau’r pwyllgor yn y dyfodol. Mae ein repertoire yn tyfu a gydag 83 o aelodau mae chwyddseinydd yn hanfodol i ganiatáu inni glywed y bysellfwrdd a datblygu ac ehangu ein perfformiadau. Weithiau, y pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr – roedd cael meicroffon ar gael wrth geisio trefnu 83 o fenywod yn dimau cwis mewn digwyddiad cymdeithasol yn amhrisiadwy! Wrth gyflwyno cais am grant ac yna prynu a gosod offer sylweddolasom fod angen prosesau cryfach ac felly recriwtiwyd 5 aelod newydd i’r pwyllgor. Rydym mor falch o fod wedi cael y grant a bydd y côr yn mynd o nerth i nerth.” Chris Harrison Côr Menywod Dare To Sing

Sut wnaeth y prosiect hwn fodloni blaenoriaethau’r gronfa:

Annog cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol / darparu offer cerddorol ar gyfer grwpiau sefydledig / cefnogi gweithgarwch diwylliannol ysbryd cymunedol