Mae hen Ganolfan Ddydd Pentre bellach yn ganolfan brysur o weithgarwch ar gyfer trigolion Pentre ac mae’n cynnig gweithgareddau dysgu, sgiliau a chyflogaeth, yn ogystal â darpariaeth cyn ysgol, grwpiau mamau a phlant bach a chlybiau ar gyfer trigolion hŷn.
Mae’r grŵp lleol, sef Canolfan Pentre, a redir gan wirfoddolwyr lleol bellach yn Sefydliad Elusennol Corfforedig, gyda phrydles am 25 mlynedd ar yr adeilad o fis Ionawr 2016. Mae gan y grŵp gyfnod di-rent o ddwy flynedd ac aiff ymlaen i dalu rhent y farchnad o £1000 y flwyddyn. Mae Canolfan Pentre wedi cael cymorth gan Interlink, Valleys Kids a Thîm Gyda’n Gilydd Rhondda Cynon Taf ym meysydd cyllid, cynllunio busnes, strwythur cyfreithiol priodol ac ati. Mae’r grŵp yn gweithio er mwyn helpu i leihau tlodi, gwella cyflawniad addysgol a chefnogi gweithgarwch datblygu cymunedol.