Tyn-y-Capel – Tafarn a Bwyty a redir gan y Gymuned, Wrecsam

222 194 rctadmin

Cafodd Cymuned Mwynglawdd arian gan y Loteri Genedlaethol i redeg y bwyty o fewn y tafarn cymunedol roedd newydd ei gaffael. Fel busnes annibynnol o fewn y prosiect mwy o faint mae’r bwyty yn darparu swyddi i bobl leol. Mae’r tafarn yn cael ei redeg fel menter nid er elw.

Caeodd tafarn y pentref ym Mwynglawdd yn 2011 ond diolch i ymdrechion pentrefwyr Mwynglawdd yn y gogledd ailagorodd y tafarn hanesyddol yn 2013. Mae’r fenter bellach yn rhedeg tafarn a bwyty llwyddiannus sy’n cynnal llawer o ddigwyddiadau cymunedol ac yn parhau i ddatblygu potensial y lle fel cyrchfan ar gyfer derbyniadau.

Dywedodd Eifion Williams, sy’n aelod o Minera Community Ltd: “Aeth y fenter hon ati i wneud dau beth. Yn gyntaf, roeddem am agor y tafarn ac rydym wedi gwneud hynny gyda chymorth y Gronfa Cyfranddaliadau Cymunedol. Yn ail, roeddem am ailfywiogi gweithgarwch cymunedol a dyna’n union beth ddigwyddodd.”

Sut y gwnaethant hynny?

Cododd dros 90 o gyfranddalwyr (lleol ar y cyfan) fwy na £37,000 er mwyn achub y Tyn a’i redeg fel tafarn cymunedol. Cafodd tafarn y Tyn gymorth ariannol o nifer o ffynonellau eraill hefyd gan gynnwys grant gwerth £48,000 gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r Tyn yn cael ei staffio gan wirfoddolwyr a’i redeg fel menter nid er elw.

Maent yn gweithredu strwythur democrataidd ac mae gan bob cyfranddaliwr un bleidlais yn ein cyfarfodydd waeth faint o gyfranddaliadau sydd ganddo.

Cymaint fu llwyddiant y tafarn a’r bwyty fel ei fod wedi ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth tafarn y flwyddyn CAMRA, a hynny o fewn blwyddyn iddo ailagor.

Rhagor o wybodaeth: http://is.gd/UnEI4l