Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch i gyhoeddi grant Cronfa Weledigaeth o £23,065.00 i The Tired Mama Collection – brand dillad arloesol sy’n tyfu (gyda chyfresi Cymraeg a Saesneg) wedi’u hanelu at famau a tadau blinedig… a’u babanod!
Wedi’i sefydlu flwyddyn yn ôl a’i redeg tan yn awr o gartref yr ymgeisydd yn Aberdulais (gyda chymorth teulu a ffrindiau), mae’r busnes wedi tyfu’n rhy fawr i’w le yn yr atig. Bydd y grant hwn yn cefnogi ehangu sylweddol, gan alluogi prynu a gosod gweithdy pwrpasol a recriwtio dau aelod o staff rhan-amser lleol. Yna bydd Tired Mama yn gallu hybu gwerthiant mewn siopau newydd megis siopau bach, sioeau babanod a digwyddiadau a bydd yn gallu dal stoc, yn hytrach na gwneud ar gais – gan leihau amseroedd cyflawni archebion a chynyddu gwerthiant uniongyrchol i gwsmeriaid newydd.
Pam y cefnogwyd y cais hwn?
-
Roedd yn drwyadl ac yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda chynllun busnes argyhoeddiadol a rhagolygon llif arian clir.
-
Bydd dwy swydd – fydd yn talu mwy na’r cyfraddau cyflog byw – yn cael eu creu gyda’r potensial ar gyfer swyddi pellach ymhen amser
-
Mae’r busnes yn caniatáu i rieni ddychwelyd i’r gwaith ar oriau hyblyg, wedi’u strwythuro o gwmpas gofal plant
-
Mae gan Tired Mama bolisi moesegol cryf, gan gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol yn unig