AMGUEDDFA GLOWYR DE CYMRU
£4,808.37 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017
Yr amgueddfa hon oedd yr amgueddfa lofaol wreiddiol yn ne Cymru – fe’i sefydlwyd pan oedd diwydiant glo o hyd. Fe’i rhedir yn bennaf gan wirfoddolwyr sy’n cyn-lowyr, y maent yn dod â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd i’r prosiect a’r teithiau tywysedig. Dyma’r unig adnodd o’i fath yn yr ardal leol. Llwyddodd yr amgueddfa i sicrhau grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2016, ac erbyn hyn mae ganddi ddau Swyddog Treftadaeth a Chasgliad penodedig sy’n cyflwyno’r rhaglen ‘Past2Present’. Maent yn cydweithio ag ymgynghorwyr arbenigol o MALD ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac wedi sefydlu partneriaethau â Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol CNPT, WCVA, Cymunedau’n Gyntaf a chonsortia addysg rhanbarthol
Y nod yw gwneud yr amgueddfa mor ddiddorol a gwobrwyol â phosib i’w hymwelwyr, ac mae’r grŵp yn anelu’n gyson at wneud y defnydd gorau o’r casgliad y mae’n ei gadw. Y gobaith yw y bydd yr adnodd yn ffurfio elfen allweddol o’r cynnig twristiaeth yng Nghwm Afan Uchaf. Mae’r prosiect hwn yn elfen bwysig o’r rhaglen ddatblygu gyffredinol, gan brynu nifer o ddarnau o gyfarpar a fydd yn eu galluogi i fonitro cyflyrau amgylcheddol yn yr amgueddfa i sicrhau y gofalir am ac y cedwir pob eitem. Hefyd, roeddent eisiau uwchraddio arddangosiad y llinell amser i fformat sgrîn gyffwrdd ddigidol er mwyn ennyn diddordeb ymwelwyr yn well.
“Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi’i dderbyn yn gadarnhaol gan bawb… roedd y gwirfoddolwyr wedi’u cyfareddu wrth weld cynnwys yr arddangosiad digidol a chan ei fod yn llawer llai na’r hen arddangosiad rydym wedi ychwanegu dwy arddangosfa newydd. Roeddem yn hynod fodlon ar yr ymateb i’r llinell amser a’r ymateb a’i hysgogodd. Diolch i’r cyfarpar Monitro newydd rydym wedi medru bodloni safonau SPECTRUM ac yn symud ymlaen gyda chais am achredu’r amgueddfa.” Dyfyniad gan William Sims – Amgueddfa Glowyr De Cymru