Mae rhaglen brawf o gymorth iechyd meddwl a gyflwynir drwy set ben realiti rhithwir ar y gweill yng Nghymru.
Datblygwyd y rhaglen gan yr elusen iechyd meddwl New Horizons mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB) gan ddefnyddio technegau therapi gwybyddol seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT) i hybu lles unigolion.
Gellir benthyg set ben VR i’w defnyddio gartref, gan gynnig ychwanegiad hygyrch at ofal ehangach sydd heb stigma ac wedi’i deilwra i ffordd o fyw’r unigolyn. Mae 1 o bob 6 person ifanc yng Nghymru â phroblem iechyd meddwl wedi’i diagnosio yn ôl Health and Care Research Wales, tra bod 20% o bobl o gymunedau difreintiedig yn cael triniaeth am gyflwr iechyd meddwl yn ôl adroddiad y Senedd yn 2022.
Dyma’r treial cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae wedi derbyn £50,000 gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, sy’n darparu dros £2m bob blwyddyn i brosiectau sy’n cefnogi cymunedau yn nyffrynnoedd uchaf Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Datblygwyd y prosiect mewn partneriaeth â CTMUHB, Arts Factory, a TEND VR.
Mae’r prosiect wedi’i gynnwys yn Rhaglen Enghreifftiol Comisiwn Bevan ar gyfer 2024/25, sy’n cefnogi gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yng Nghymru i ddatblygu a phrofi syniadau arloesol i wella gofal cleifion.
Dechreuodd y prosiect 10 wythnos ei gyfnod prawf yn gynharach eleni, ac roedd Marc Hughes, 39, ymhlith y cyntaf i ddefnyddio’r therapi VR. Fel gwirfoddolwr yn yr Arts Factory yn Rhondda Cynon Taf, cyflwynwyd MBCT iddo ar ôl i New Horizons wahodd staff i’r treial. Wedi dioddef gyda phryder ac iselder am y rhan fwyaf o’i fywyd, croesawodd y dyn lleol o’r Rhondda y cyfle.
“Roeddwn mewn cyflwr meddyliol tywyll ar y pryd cefais fy nghyflwyno i’r therapi, yn dioddef gyda phryder ac roeddwn yn llawer mwy ynysig,” meddai Marc. “Ond ers defnyddio’r dechnoleg newydd hon rwyf wedi dechrau dod yn fwy tawel, cyfeillgar a chyfathrebol.”
Mae’r cwrs realiti rhithwir yn canolbwyntio ar dechnegau megis ymarferion anadlu, bwydo pysgod rhithwir, a seiniau trochi i ymlacio cleifion a rheoli eu hanadlu. Os bydd yn llwyddiannus, gellid dosbarthu’r dull arloesol newydd hwn o drin pobl sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl ar draws Cymru.
“Rwyf wastad wedi bod yn dda gyda thechnoleg, felly nid wyf erioed wedi cael problem gyda’r setiau pen. Mae’n addasadwy iawn yn fy marn i,” meddai.
“Mae’r realiti rhithwir yn fy nghefnogi i ganolbwyntio ar y byd trochi, i ffwrdd o sŵn a straen bywyd bob dydd.
Mae’n fy helpu i reoli fy mhryderon ac rwy’n datblygu fy hyder i wynebu pob diwrnod fel mae’n dod. Rwyf eisoes wedi dechrau argymell y driniaeth i ffrindiau rwy’n gwybod a fyddai’n elwa ohoni.”
Meddai Steve Curry, Swyddog Datblygu Busnes yn New Horizons Health: “Rwy’n credu i Ben y Cymoedd weld y darlun ehangach o’r prosiect hwn. Rydym yn annog ac yn hyrwyddo mwy o ystyriaeth i gynnal a gwella iechyd meddwl a lles pobl.”
Ychwanegodd Janet Whiteman, Cyfarwyddwr New Horizons: “Mae’n wych bod Pen y Cymoedd wedi ariannu’r prosiect. Mae’n hyfryd teimlo’n cael ein cefnogi ac mae’r elusen wedi mynd o nerth i nerth.”
Meddai Kate Breeze, cyfarwyddwr gweithredol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd: “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi gwaith New Horizons sy’n mynd i’r afael â mater mor bwysig. Mae’n galonogol gwybod bod Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd wedi helpu i hwyluso datblygiad y dechnoleg newydd hon, a gobeithio y caiff ei mabwysiadu ledled y wlad fel therapi i gefnogi iechyd meddwl a lles.”