YMCA Hirwaun wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd
Mae canolfan gymunedol gydag etifeddiaeth 80 mlynedd o hyd o gefnogi plant a phobl ifanc wedi derbyn £385,000.
Derbynodd YMCA Hirwaun yn Aberdâr grant gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, â’r arian i’w ddefnyddio er mwyn trawsnewid y brif neuadd i mewn i ofod modern, aml-ddefnydd gydag offer sain o’r radd flaenaf, a wal ddringo.
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn darparu cefnogaeth i brosiectau trawsnewidiol ledled cymoedd Castell-nedd, Afan, Cynon a’r Rhondda. Mae gan y gronfa incwm blynyddol gwarantedig o £1.8 miliwn hyd 2043. Mae incwm y gronfa yn gysylltiedig â mynegeion, sy’n golygu ei fod ynghlwm wrth chwyddiant, a’i gyfanswm yn £2.4 miliwn yn 2024.
Bydd grant YMCA Hirwaun yn cefnogi’r sefydliad yn ystod cam olaf ei ddatblygiad cyfalaf, gan greu prif neuadd gyda chyfleusterau ar gyfer celfyddydau perfformio, theatr, chwaraeon a digwyddiadau cymunedol eraill. Bydd rôl swyddog datblygu llawn amser hefyd yn cael ei hariannu’n llawn am dair blynedd i alluogi’r ganolfan i wireddu ei llawn botensial.
Agorodd yr YMCA yn Hirwaun yn y 1940au, gan ddarparu lle i ddynion ifanc gymdeithasu, dysgu a rhannu diddordebau. Heddiw, mae’r YMCA yn parhau i gefnogi pobl ifanc o bob cefndir i greu dyfodol iach, hapus, bodlon a phwrpasol.
Dywedodd Kate Breeze, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd;
“O’r eiliad i ni gwrdd â Neil a’r tîm, roedden ni’n gwybod bod rhywbeth arbennig ganddyn nhw.
“Mae eu gwir angerdd dros rymuso pobl leol yn amlwg ym mhopeth maen nhw’n gwneud, ac ry’n ni mor falch o fedru chwarae ein rhan i’w helpu i gyflawni eu potensial.
“Ein huchelgais fel cronfa yw i greu newid trawsnewidiol fydd yn para ar draws ardal fudd y fferm wynt, a phrosiectau fel hyn sy’n bwydo’r uchelgais hwnnw.
“Rydym yn hynod gyffrous i barhau i gefnogi Neil a’i dîm dros y blynyddoedd nesaf a gwneud y mwyaf o’u caffi ar gyfer ein cyfarfodydd a’n digwyddiadau ein hunain!”
Dywedodd Neil Reed, Prif Weithredwr YMCA Hirwaun: “Ar ôl bod yn rhan o’r tîm hwn ers 20 mlynedd, dwi’n frwd dros barhau i adeiladu ar yr hyn rydym yn ei wneud gyda’n cymuned a sicrhau bod yr adeilad hwn yma am genedlaethau i ddod.
“Gyda grant Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, rydyn ni nid yn unig yn gallu adfywio rhan fawr o’n hadeilad, ond rydym hefyd yn mynd i gyflogi person lleol i’n helpu i dyfu ymhellach.
“Bob dydd, dwi’n gweld yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth newydd neu mae rhywun eisiau gwneud rhywbeth yma. Allai ddim aros i weld sut y bydd y theatr a’r wal ddringo newydd yn cael eu defnyddio gan y gymuned leol a thu hwnt. Bydden i’n dweud wrth unrhyw un sydd eisiau gwneud rhywbeth yn Hirwaun i gysylltu â ni i weld beth all yr adeilad ar ei newydd wedd wneud i chi!”
Dywedodd Berry Jordan, Cynghorydd Buddsoddiad Busnes a Chymuned ar gyfer Vattenfall UK, sy’n ariannu’r gronfa gymunedol fel perchnogion Fferm Wynt Pen y Cymoedd: “Rydyn ni’n angerddol dros genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru – a’r byd – ac yn dryw i hyn drwy ein huchelgais i fod yn ddi-ffosil.
“Rydym yn falch o allu cefnogi sefydliadau fel YMCA Hirwaun trwy Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd; sefydliadau sydd â gwerthoedd ac uchelgeisiau a rennir o ran cynaliadwyedd, datblygu sgiliau, a gwneud gwahaniaeth.
“Fel gweithredwyr y fferm wynt fwyaf yng Nghymru a Lloegr, ac felly’r gronfa gymunedol fwyaf, dyma’r union fath o newid trawsnewidiol yr ydym wrth ein bodd gweld yn cael ei weithredu yn y cymunedau o fewn yr ardal fudd.
“Rydym yn gyffrous ar gyfer dyfodol y cymoedd o ganlyniad i bobl anhygoel fel Neil a’r tîm.”