Y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Llygod Dŵr

277 196 rctadmin

Yn ôl yn y Gwanwyn fe wnaethom ddyfarnu £125,052.31 i INCC am brosiect cadwraeth ac ymchwil llygod dŵr 3 blynedd sy’n gweithio gyda chymunedau yn ardal y gronfa.

Ers hynny mae’r cyllid wedi creu dwy swydd ran-amser i bobl leol yn ogystal â chefnogi rôl o fewn INCC.

  • Mae’r Swyddogion Cadwraeth newydd wedi bod yn brysur yn cynnal astudiaethau llygod dŵr (gan eu bod fwyaf gweithgar yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf) yn ogystal â gweithio gyda thirfeddianwyr a Phrifysgol Caerdydd.
  • Mae’r Swyddogion eisoes wedi nodi sawl cytref llygod dŵr yn y cynefinoedd ucheldirol, ac maent wedi llwyddo i ddefnyddio trapiau camera i gofnodi rhywfaint o’u hymddygiad.
  • Yn ogystal â Llygod y Dŵr, mae’r camerâu hefyd wedi codi Field Vole, Common Lizard, Pygmy Shrew, Common Shrew a Weasel.
  • Maent wedi dechrau cynnal diwrnodau hyfforddi ac arolygon gwirfoddolwyr
  • Maent yn gweithio gydag ysgolion cynradd Cwmparc a Threorci yn ardal y prosiect ar sut y gallant ddathlu llygod y dŵr yn y dirwedd. Bydd y gwaith hwn yn parhau gyda’r gobaith o sgyrsiau ysgol ac ymweliadau safle yn y pen draw.

“Mae’r prosiect yn mynd yn dda iawn, ac rydym wedi ein synnu a’n cyffroi gan faint o gytrefi llygod y dŵr a ddarganfuwyd hyd yma yn y cynefinoedd ucheldirol. Fodd bynnag, mae peth cynefin addas yn parhau i fod heb ei feddiannu, ac rydym yn ansicr eto pam y gallai hyn fod. Gobeithio y bydd arolygon ac archwiliadau pellach yn yr ardal yn rhoi mwy o fewnwelediadau ac atebion i ni.  Dros yr Hydref a’r Gaeaf byddwn yn parhau i gynnal arolygon ac yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i sefydlu methodoleg ar gyfer echdynnu samplau DNA o lygod dŵr, yn fwyaf tebygol o ffoliglau gwallt.