Bydd ICE Cymru yn cyflwyno rhaglen 4-mis yn rhannau uchaf cymoedd Rhondda a Chynon gyda’r nod o gefnogi busnesau yn y cam holl bwysig hwnnw rhyw flwyddyn neu ddwy ar ôl eu sefydlu. Yn aml iawn, hwn yw’r cam lle mae busnesau’n cael problem gyda chynllunio beth i’w wneud nesaf, a bydd y rhaglen cymorth dwys hon yn rhoi i Fusnesau Bach a Chanolig (SMEs) lleol yr offer a’r strategaethau i oresgyn heriau, gan sicrhau y gallant addasu, tyfu a ffynnu mewn tirlun economaidd sy’n newid yn gyson.
Bydd busnesau sy’n cymryd rhan hefyd yn cael eu hannog i archwilio technolegau newydd, arallgyfeirio’r hyn maent yn ei gynnig, a rhoi ymarferion arloesol ar waith er mwyn parhau’n gystadleuol a chynaliadwy.
Bydd yna hefyd ffocws ar eu cefnogi i sicrhau eiddo masnachol ar eu stryd fawr leol, gan gyfrannu ymhellach at dwf yr economi leol, ac ystyried ac archwilio cyfleoedd i greu swyddi newydd a diogelu swyddi sydd eisoes yn bodoli.
“Mae Pen y Cymoedd yn gyson wedi cefnogi amrywiaeth o swyddi tymor-hir ac o ansawdd uchel, ac wedi nodi anghenion busnesau lleol, gan eu galluogi i ymestyn ac amrywio. Er ein bod yn falch o’r busnesau y rhoddwyd cymorth iddynt gyda’u costau cychwynnol, rydym hefyd yn deall y gall perchnogion busnesau bach wynebu anawsterau ymhen ychydig flynyddoedd, a dod ar draws problemau sy’n eu rhwystro rhag ehangu. Mae hwn yn fodel arloesol sy’n defnyddio gweithdai, mentora, hacathons a chymorth uniongyrchol, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld sut mae’r rhaglen hon yn gweithio yn yr ardal, a beth fydd y canlyniadau ar gyfer y busnesau hynny fydd yn derbyn eu cymorth.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Pen y Cymoedd
“Nod y rhaglen hon yw grymuso busnesau lleol ar gam holl bwysig yn eu taith. Gyda chymorth wedi’i dargedu a’i bersonoli, byddwn yn eu helpu i lywio drwy heriau, i groesawu arloesedd, ac yn y pen draw i adeiladu sylfaen ar gyfer twf cynaliadwy. Trwy weithio’n uniongyrchol gyda busnesau yng ngogledd Rhondda Cynon Taf, gallwn sicrhau eu bod nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu yn y tymor hir.” – Tomas Phillips, Pennaeth Datblygiad Masnachol, ICE Cymru
Roedd y Ganolfan Arloesi ar gyfer Entrepreneuriaeth yng Nghymru, Cyf., a sefydlwyd yn 2012 gan Anthony Record OBE, yn mynd i’r afael â’r angen brys am gefnogaeth ddigonol i egin-entrepreneuriaid yng Nghymru. Roedd sefydlu tîm allgymorth yn 2019 yn nodi carreg filltir sylweddol yn esblygiad ICE Cymru. Gyda’r datblygiad hwn, galluogwyd y sefydliad i ymestyn ei fodel llwyddiannus y tu hwnt i Gaerffili, gan feithrin ecosystem entrepreneuraidd ddyfnach a mwy eang ar draws nifer o gymunedau yng Nghymru. Trwy adeiladu ar y llwyddiant a gafwyd eisoes, nod ICE Cymru yw cefnogi a meithrin entrepreneuriaeth drwy Gymru benbaladr, gan hybu twf economaidd ac arloesedd.