PyC: BUDDSODDI MEWN CYMUNEDAU AR GYFER DYFODOL DISGLAIR – COCO’S COFFEE AND CANDLES

1024 576 rctadmin

Pan alwodd Bridie i mewn i’n swyddfa yn gynnar yn 2023 gyda bwrdd gweledigaeth i greu Coco’s Coffee and Candles gallem weld yn syth fod hwn yn fusnes cyffrous a fyddai’n cael effaith yng nghanol tref Aberdâr.

A hithau eisoes yn rhedeg siop ganhwyllau mewn stryd fach, roedd hwn yn gynllun uchelgeisiol i gymryd siop llawer mwy o faint, a mwy canolog a chreu siop goffi bwtîc a busnes gwneud a gwerthu canhwyllau.

Dyfarnwyd £44,100.05 i Coco’s Coffee and Candles ym mis Mai 2023. Roedd hyn yn fenthyciad yn bennaf gyda grant rhannol.

Lansiwyd Coco’s Coffee and Candles yn Ionawr 2024 ac ychydig wythnosau’n ôl aethom i ymweld â rhai o aelodau Bwrdd PyC.

Mae’r hyn maen nhw wedi’i greu yn ased go iawn ar y stryd fawr sy’n destament i’w hymroddiad a’u cynllunio. Yn ogystal â rôl Bridie y maent eisoes yn  cyflogi nifer o bobl leol.

Dywedodd Thomas Tudor Jones, Cadeirydd PyC, a ymwelodd ag aelodau eraill y bwrdd ychydig wythnosau yn ôl, “roedd yn hyfryd cael y cyfle i ymweld â phrosiect y mae’r gronfa wedi’i gefnogi a’i weld yn dod yn fyw. Mae’r bwrdd bob amser yn llawn cyffro wrth gefnogi ceisiadau sy’n cyfrannu at ddatblygu ein cymunedau. Mae buddsoddi yn y sector manwerthu ac mewn strydoedd mawr lleol deniadol, sy’n cael eu cadw’n dda, yn flaenoriaeth allweddol i’r cymunedau yn yr ardal fudd, fel y manylir ym mhrosbectws y gronfa. Mae’r hyn y mae Bridie a’i thîm wedi’i greu yn unigryw. Galwch draw i weld drosoch eich hunain. Pob lwc Bridie a’r tîm. Bydd wych!”

“Rydym wir wedi ein syfrdanu gan gefnogaeth y gymuned: rydym wedi cael ciwiau allan drwy’r drws ac fe fu’n rhaid i ni gau’n gynnar weithiau oherwydd y galw. Nid oes unrhyw eiriau i ddisgrifio pa mor ddiolchgar ydym – mae’r adborth wedi bod yn anhygoel. Rydym yn ddiolchgar i Ben y Cymoedd am gredu ynom a chefnogi ein gweledigaeth.” – Bridie, Coco’s Coffee and Candles