Pen y Cymoedd yn dyfarnu £26,000 i New Pathways

320 320 rctadmin

Mae New Pathways yn asiantaeth arbenigol sy’n rhoi cymorth i rai sydd wedi dioddef trais rhywiol trwy ddarparu gwasanaethau ar draws y rhanbarth.

Bydd y prosiect yn sicrhau bod pobl yn yr ardal sydd wedi cael profiad o drais rhywiol (trais, ymosodiad rhywiol, neu gam-drin rhywiol) yn gallu cael mynediad at wasanaethau therapiwtig sy’n goresgyn effeithiau trawma ac yn hybu gwellhad.

Bydd yn:

  1. Darparu sesiynau cwnsela arbenigol ar drais rhywiol ar gyfer y rhai hynny sydd wedi cael profiad o drais, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol, yn ddiweddar neu yn y gorffennol
  2. Torri’r rhestr aros a’r amser aros ar gyfer gwasanaethau cwnsela
  3. Codi ymwybyddiaeth ehangach o faterion o amgylch trais rhywiol

“Mae trais rhywiol yn endemig yn ein cymdeithas, ac nid yw’n parchu ffiniau cymdeithasol, economaidd na diwylliannol. Mae’n cael effaith ddinistriol ar y dioddefwyr, yn y tymor byr a’r tymor hir. Caiff pobl eu cyfeirio at New Pathways am gymorth gan amryw o bartneriaid, ac maent wedi bod yn cynnig y cymorth hollbwysig hwn am dros 30 mlynedd. Mae’n fraint i ni eu helpu