Gyda chyllid o £98,000 dros 3 blynedd, byddant yn gweithio gyda’r 4 ysgol yn Nyffryn Afan (Croeserw, Cymmer Afan, Pen Afan a Glyncorrwg).
- Darparu hyfforddwr/mentor i bob ysgol bob wythnos am 3 blynedd
- Cynnal gweithdai llesiant ym mhob ysgol
- Sefydlu a rhedeg clybiau ar-ôl-ysgol gyda tua 40 o blant o bob ysgol yn cymryd rhan yn y clybiau hyn
- Cynnal Twrnament Blynyddol i Ysgolion
- Uwchsgilio aelodau o staff yr ysgolion i ddod yn Llysgenhadon Prosiect, gan sicrhau parhad y prosiect a datblygu arweinwyr
- Hyfforddi disgyblion i fod yn Llysgenhadon Prosiect Iau o fewn pob ysgol
- Gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Croeserw i hyrwyddo pêl-droed ac i annog plant i gymryd rhan.
Bydd yr arian nid yn unig yn creu 2 swydd, ond hefyd yn cael effaith uniongyrchol a hir- dymor trwy ymgysylltu’r plant â gweithgareddau sy’n cael effaith bositif ar eu llesiant corfforol a meddyliol.
Mae’r cwmni wedi derbyn arian cyfatebol oddi wrth Principality, ac mae’n wych gweld – hyd yn oed wrth iddynt wynebu cyfyngiadau sylweddol ar eu cyllidebau – bod pob ysgol wedi ymrwymo i elfen ariannol, gan fod hynny’n dangos eu bod yn gweld potensial gwirioneddol i’r prosiect. Dymunwn bob llwyddiant iddynt dros y 3 blynedd nesaf.
Rydym yn gyffrous iawn o weld cychwyn y prosiect 3-blynedd hwn, a fydd yn dod â manteision hir-dymor i’r plant, eu teuluoedd, eu hysgolion a’r gymuned ehangach. Bydd y cynllun arloesol hwn yn cryfhau’r cysylltiad â chlybiau chwaraeon lleol ac yn creu cyfleoedd fydd yn gadael effaith barhaus. Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb y gefnogaeth anhygoel a gafwyd gan Fferm Wynt Pen y Cymoedd! – Matthew Gubb, Goalgetters