Pen y Cymoedd wrth eu bodd yn cefnogi LibraryPlus! yn Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan gyda grant o £26,000

1024 576 rctadmin

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae’r Llyfrgell wedi cael ei rhedeg gan dîm o Ymddiriedolwyr, Gwirfoddolwyr ac ychydig o staff cyflogedig,  yn dilyn penderfyniad yr awdurdod lleol i dynnu eu cefnogaeth yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwnnw maent wedi trawsnewid y gofod a bellach mae ganddynt ddarllenwyr o bob oedran, ystod o weithgareddau wythnosol yn y llyfrgell, siop ddanteithion, Banc Bwyd a Phantri, Cyngor ar Bopeth, Hwb Dementia, sinema gymunedol, dosbarthiadau a chyrsiau addysgol, a llawer mwy.

“Maen nhw’n wir wedi tyfu gyda’r gymuned, a datblygu’n ofod lle mae pawb yn cael croeso, ac  mae ’na wastad rywbeth yn digwydd yno i wasanaethu’r gymuned. Yn ddiweddar, dangosodd eu Parti Pen-blwydd yn 10 oed yn union pa mor bwysig ac annwyl yw’r llyfrgell fel ased gymunedol, a sut maen nhw wedi ymateb i anghenion a chyfleoedd yn y gymuned dros y 10 mlynedd ddiwethaf, gan addasu mewn cyfnodau anodd. Mae penodi Rheolwr Datblygu wedi trawsnewid y sefyllfa dros yr 8 mis diwethaf. Mae yno gyffro go iawn ac adborth dilys gan y gymuned ynghylch yr amrywiaeth o ddefnyddwyr sydd yno, a rôl y lle yn eu bywydau, ac rydym wrth ein bodd yn eu cefnogi dros y 12 mis nesaf.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Pen y Cymoedd