Pen y Cymoedd: CYDWEITHIO ARFER GORAU GWIRFODDOLI

1024 1024 rctadmin

Mae gwirfoddoli mor bwysig heddiw ag y bu erioed mewn perthynas â grwpiau’r Trydydd Sector a’r cymunedau maent yn eu cefnogi.

Fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn Interlink RhCT, fy rôl i yw cynnig cyngor a chanllawiau i’r grwpiau hyn. Dyma rai o’r pethau allweddol rwy’n ceisio eu rhannu mewn perthynas â gweithio gyda gwirfoddolwyr.

P’un ai a ydych yn y camau cyntaf, neu eich bod eisoes yn ymwneud â gwirfoddolwyr ers peth amser, mae’n bwysig eich bod yn cael y pethau sylfaenol yn iawn. Ffordd wych o wneud hyn yw trwy gyfeirio at ddogfen CGGC/WCVA, Code Of Practice for Organisations Involving Volunteers fel rhestr wirio i sicrhau bod popeth mewn trefn. Mae hyn yn cynnwys:

Strategaeth a Pholisi Gwirfoddolwyr

Ydych chi wedi llunio eich Polisi Gwirfoddolwyr, ac ydy e’n gyfredol ac yn berthnasol? Gallwch gwblhau Strategaeth Gwirfoddolwr i fwydo i mewn i’r polisi hwn, gan fynd i’r afael â pham yr ydych yn awyddus i gynnwys gwirfoddolwyr a sut y bydd hynny o fudd i’ch sefydliad, eich cymuned, a’r gwirfoddolwyr eu hunain. Bydd cael polisi cadarn yn amlinellu’r gwahanol rolau a chyfrifoldebau, ac yn darparu’r fframwaith sylfaenol ar gyfer gwirfoddoli o fewn eich grŵp.

Beth am eich arferion diogelwch a chyfreithiol? Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’ch gwirfoddolwyr yn ddiogel trwy ofalu bod yr asesiadau risg, yr yswiriant, a’r arferion diogelu hefyd yn eu lle.

Recriwtio a Rheoli Gwirfoddolwyr

Nodwch pwy fydd yn rhoi cefnogaeth i’r gwirfoddolwyr, ac yn eu harolygu – oes ganddyn nhw’r gallu i wneud hyn yn dda, gan feddu ar y sgiliau, yr hyfforddiant a’r capasiti angenrheidiol? Mae hyn yn holl bwysig wrth groesawu gwirfoddolwyr newydd, a’u cadw am gyfnod o amser.

  • Cynigiwch gyfnod o gynefino, cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd, a hyfforddiant i wirfoddolwyr.
  • Cynigiwch ad-dalu costau ychwanegol er mwyn eu digolledu a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y cyfleoedd.
  • Boddhad gwirfoddolwyr: dylech gofnodi a hyrwyddo effaith eich gwirfoddolwyr fel bod modd iddynt weld sut mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth. Gofynnwch i’r gwirfoddolwyr am adborth, a’u cynnwys wrth wneud penderfyniadau, ynghyd â phenderfynu sut rydych yn diolch iddynt ac yn eu dathlu. Gallai hyn fod yn ddisgled o de a chacen, neu’n gyfle am hyfforddiant – mae gofyn a gwrando yn allweddol.

Hysbysebu eich Cyfleoedd

Os yw gwirfoddolwyr am gynnig eu help, rhaid iddynt wybod am fodolaeth y cyfleoedd! Dylech hysbysebu’r rhain yn eich lleoliad, ynghyd â phosteri a thaflenni, a’u hyrwyddo ar-lein ar Connect RCT a Volunteering Wales. I wneud hyn, rhaid i chi gyfathrebu’n glir sut brofiad yw gwirfoddoli o fewn eich grŵp, a beth yw’r buddion.

  • Rhestrwch y tasgau a’r gweithgareddau y gall gwirfoddolwyr fod yn rhan ohonynt, a chynnwys y rhain yn eich hysbysebion, ynghyd ag unrhyw fanylion eraill megis costau a chymorth. Bydd gwneud hyn yn apelio at gymhelliad darpar wirfoddolwyr, ac yn diffinio’r ffiniau rhwng gwirfoddoli a gwaith â thâl.
  • Rydym wedi dysgu o’r Time Well Spent 2023 Survey bod mwy o bobl bellach yn chwilio am gyfleoedd hyblyg ac anffurfiol, felly dylech ystyried sut y gallwch ddiwallu’r dymuniad hwnnw hefyd. Mae adroddiad yr Arolwg yn ddull hynod effeithiol o wella cyfranogiad a phrofiad gwirfoddolwyr.

Un adnodd defnyddiol sy’n cwmpasu’r cyfan a nodir uchod, a mwy, yw adran CGGV/WCVA ar Volunteering Principles and Getting Started, a gall Interlink RhCT eich cefnogi i gael y gorau allan o’r adnoddau hyn a’u gweithredu yn eich sefydliad.

Gallwn hefyd eich helpu ymhellach gyda’r canlynol:

  • Deall a chwblhau gwiriadau DBS gwirfoddolwyr â thâl.
  • Cymorth digidol ar Cyswllt RhCT a Gwirfoddoli Cymru.
  • Hyfforddiant i Wirfoddolwyr (megis Hylendid Bwyd).
  • Help gyda chyllidebu ar gyfer costau gwirfoddolwyr a chael mynediad at grantiau perthnasol.
  • Rhwydweithiau lleol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chyfleoedd.