Pen y Cymoedd: CYDWEITHIO ARFER GORAU

1024 1024 rctadmin

ELUSENNAU CRYFACH, CYMUNEDAU CRYFACH

Trwy weithio ochr yn ochr â channoedd o elusennau bob blwyddyn, rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod hynod heriol i sefydliadau yn y rheng flaen gan eu bod dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen. Mae arweinwyr elusennau a’u timau’n gweithio’n galed i ymateb i’r cynnydd mewn galwadau gan eu buddiolwyr, sydd ag angen eu gwasanaethau yn fwy nag erioed, tra bod cyllido dan bwysau ac maent yn wynebu heriau yn y gweithle gyda phroblemau wrth recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr.

Yn y blog hwn/y gyfres hon, mae’r Cranfield Trust yn rhannu ei fewnwelediad i’r heriau ac yn rhannu arweiniad a chyngor ymarferol i helpu elusennau i wybod ble i ffocysu eu hamser a’u hymdrechion er mwyn eu llywio drwy’r cyfnod heriol hwn.

Y cam cyntaf un yw ffocysu ar yr ochr ariannol. Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, gall rheoli llif arian fod yn fwy anodd, ond mae hefyd yn bwysicach nag erioed. Os nad ydych wedi paratoi rhagolwg llif arian, nawr yw’r amser i lunio un. Gwnewch yn siŵr ei fod yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd eich blwyddyn ariannol – ac edrychwch ar wahanol senarios ar gyfer incwm a gwariant. Defnyddiwch ragolwg incwm yn seiliedig ar y syniad syml ‘coch, ambr, gwyrdd’ i edrych ar faint rydych yn debygol o’i godi, gan blotio hyn i mewn i’ch llif arian. Mae ein gweminar Cash is King yn eich arwain drwy ddangosiad o awgrymiadau ymarferol, cysyniadau sylfaenol, a syniadau y gallwch eu gweithredu ar unwaith.

Gyda’r cynnydd cyflym mewn chwyddiant, mae’n bwysig ystyried sut i reoli eich arian mewn amgylchedd o chwyddiant uchel, a meddwl sut i baratoi rhagolwg o safbwynt strategol a safbwynt ymarferol. Gyda phopeth yn symud mor gyflym mae’n anodd gwybod ar beth i ffocysu, ond y lle gorau i ddechrau yw deall beth all symud, beth na all symud, a beth sydd yn y canol. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi rhagolwg yn awr ac yn y tymor hirach.

Rydyn ni yn y Cranfield Trust yn sôn llawer am ‘investability’, sef dull o weithio sy’n mynd y tu hwnt i strategaeth ariannu ac sy’n gallu eich helpu i greu ffyrdd o ddenu diddordeb, buddsoddiad ac effaith ar gyfer eich elusen. Yn ein gweminar cewch eich arwain drwy syniadau ymarferol a chamau ‘sut i’ i’ch helpu i roi eich elusen ar flaen y ffordd hon o feddwl.

Gwnewch y gorau o’r amser a dreulir yn codi arian trwy siarad gyda chyllidwyr cyn cyflwyno cais, lle mae cyllidwyr yn agored i hyn. Mae deall diddordebau cyllidwyr, a pha mor debygol y maent o fod â diddordeb yn eich gwaith, yn arbed treulio amser ac ymdrech ar geisiadau nad ydynt yn debygol o lwyddo.

Pan fyddwch yn buddsoddi amser mewn ysgrifennu ceisiadau am arian, rydych yn awyddus iddynt fod mor llwyddiannus â phosib. Yn ein gweminar, mae ein gwirfoddolwr Trevor Kitching yn eich helpu i ddeall ffordd o feddwl y gwerthuswyr i’w cael i gynyddu’r sgôr maent yn ei dyfarnu i’ch bid. Erbyn diwedd y gweminar bydd gennych ganllawiau a chyngor ymarferol i’w ddilyn pan fyddwch yn ysgrifennu eich bid nesaf a’ch cais am gyllid.

Efallai yr hoffech chi ystyried opsiynau newydd ar gyfer ariannu ac incwm. Mae’r Charity Excellence Funding Finder Directory yn cynnwys cannoedd o ddolenni at restrau ar-lein o gyllidwyr elusennau, a chyfeiriaduron grantiau elusennol eraill, yn rhad ac am ddim. Mae nifer o elusennau’n ei chael yn fwyfwy anodd i ddibynnu’n llwyr ar arian grant ac yn ceisio amrywio eu ffynonellau ariannol. Yn ddiweddar buom yn gweithio gyda Suzanne Waggett, Prif Swyddog Buddsoddiadau y Frederics Foundation, i esbonio buddsoddi cymdeithasol a pham y gallai elusennau ystyried buddsoddiad cymdeithasol.

Ewch ati i greu neu adnewyddu eich cynllun busnes. Yn y Cranfield Trust rydym yn helpu elusennau i lywio’u ffordd drwy newid, a gweld y tu hwnt i’r heriau maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae rhai pethau’n holl bwysig, megis sicrhau bod gennych gynllun busnes sy’n gwbl ddealladwy i bawb yn eich tîm, eich bod yn realistig ynghylch y dyfodol, ac yn barod i newid eich cynllun. Mae cael cynllun cryf fel llinell sylfaen yn eich helpu i deimlo eich bod yn glir ynghylch eich uchelgeisiau, yn rhoi’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i ystyried newid, a’ch gosod mewn sefyllfa ffafriol gyda’ch cyllidwyr.

Nid yw eich cynllun busnes yn ddigyfnewid – gall, a dylai, addasu i’ch amgylchedd newidiol. Er bod meddwl am ailymweld â’ch strategaeth a’ch cynlluniau yn gallu codi ofn pan fyddwch yn ffocysu ar y pwysau sydd arnoch ar y pryd, rydym yn argymell eich bod yn adolygu ac yn ailymweld â’ch cynlluniau i’ch llywio drwy’r cyfnod heriol hwn a’ch gwneud yn gryfach ar gyfer y dyfodol. Cymerwch gipolwg ar ein canllaw byr ymarferol sy’n eich arwain drwy’r cwestiynau i’w gofyn wrth ddatblygu cynllun busnes eich elusen, a fydd yn eich helpu i ddiweddaru cynllun sy’n bodoli eisoes.

Mae cael cynllun busnes cryf, a synnwyr o gyfeiriad, yn tanategu llywodraethu da eich sefydliad. Mae’n eich helpu chi, a’ch cyllidwyr a’ch buddiolwyr, i wybod eich bod yn gwneud y pethau iawn. Mae Ymddiriedolwyr yn chwarae rôl bwysig yn dal eich sefydliad i gyfrif, a gallant gyflwyno sialens adeiladol a defnyddiol. Gall eich strategaeth a’ch cynllun ddarparu’r fframwaith ar gyfer ffocws eich Bwrdd a’r broses graffu.

Mae mynd i’r afael â phroblemau newydd yn galw am atebion newydd, ac ar adegau o argyfwng mae angen gweithredu atebion ar frys, gweld beth sy’n gweithio ac yn gwella’r sefyllfa, a hynny wrth gwrs â chyn lleied â phosib o risg. Mae Ann Mei Chang yn rhannu rhai syniadau doeth ar ba mor gyflym y gallwn ailadrodd, cyflwyno adborth, a gwella. Gwyliwch ein gweminar ar Lean Impact.

Peidiwch ag anghofio am eich lles eich hun. Mae’n anodd cael sefydliad gwydn heb hefyd gael arweinwyr a phobl wydn. Rydym yn gweld lefelau uchel o straen – ac, mewn rhai achosion, lludded llwyr – felly mae’n bwysig eich bod hefyd yn ffocysu ar eich lles eich hun.

Yn ein gweminar mae Chris O’Rourke, sy’n cael ei gydnabod yn fyd-eang fel COO a Hyfforddwr Personol Cofrestredig, yn eich arwain drwy saith piler llesiant – cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol, amgylcheddol, galwedigaethol, deallusol a chorfforol – i’ch helpu i lywio’ch ffordd drwy’r amserau cyfnewidiol hyn. Mae Dr Elouise Leonard-Cross wedi ysgrifennu blog ar Using the Circle of Influence to Support Resilience, lle mae hi’n sôn am gategoreiddio pryderon a sut i ffocysu ar y pethau cywir i adeiladu eich gwytnwch.

Gall y berthynas rhwng Byrddau ac arweinwyr elusennau weithiau fod yn heriol, gan ychwanegu at y pwysau sydd ar arweinwyr a rheolwyr. Gall gweithio ar wella llywodraethiant a gwaith tîm fod yn ffordd dda o dreulio amser yn datblygu Bwrdd mwy positif a chefnogol.

Gwyddom fod gweithredu fel arweinydd elusen yn gallu eich rhoi mewn sefyllfa unig, ond does dim angen i hynny ddigwydd. Mae gwasanaeth mentora rhad ac am ddim y Cranfield Trust yn darparu mentoriaid sy’n brofiadol, yn empathetig, ac yn gallu helpu i gefnogi arweinwyr i gyflawni eu nodau datblygiad personol fel bod modd iddynt lwyddo’n well i gwrdd â’u nodau trefnyddol.

Fel rhan o raglen a phartneriaeth ‘Stronger Charities, Stronger Communities’, mae’n bleser gennym gynnig cymorth rheoli critigol ar gyfer elusennau a grwpiau cymunedol yn ardal Pen y Cymoedd. Drwy ein rhwydwaith o wirfoddolwyr hynod brofiadol a medrus, byddwn yn darparu ymgynghoriaeth wedi ei deilwrio, cyngor dros y ffôn, a mentora, er mwyn rhoi i arweinwyr elusennau y sgiliau a’r hyder mae arnynt eu hangen i lywio’u llwybr drwy’r argyfwng presennol. Byddwn hefyd yn gweithio gydag arweinwyr elusennau i’w helpu i ddatblygu eu sefydliadau a’u timau, fel bod modd iddynt adeiladu eu capasiti i gefnogi pobl a chymunedau yn y tymor hirach.