Pam, beth a sut!

Monitro a Gwerthuso

pam, beth a sut!

Monitro a Gwerthuso

Gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol

C: Pam mae angen i chi fonitro a gwerthuso eich prosiect?

Mae tri phrif reswm:

  1. Mae angen i ni (a chi!) wybod pa gynnydd rydych yn ei wneud o ran cyflwyno eich prosiect
  2. Mae angen i ni (a chi!) wybod pa wahaniaeth y mae eich prosiect yn ei wneud.
  3. Rydym eisiau dysgu o’r profiad o gyflwyno eich prosiect

Mae angen i ni wybod pa wahaniaeth y mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn ei wneud yn yr ardal. I wneud hyn, rydym yn gofyn i’r prosiectau a ariannwyd ddweud wrthym am yr hyn y maent wedi’i gyflawni.

Y peth pwysig i’w nodi yw bod monitro a gwerthuso yn bethau cadarnhaol. Byddant yn eich helpu rheoli a chyflwyno eich prosiect, mesur y gwahaniaeth y mae eich prosiect wedi’i wneud ac yna hysbysu pobl amdano!

C: Beth yw’r gwahaniaeth rhwng monitro a gwerthuso?

Mae Monitro yn ymwneud â chywain a dadansoddi gwybodaeth ynglŷn â phrosiect, i’w gyflawni wrth i’r prosiect fynd rhagddo. Adroddir data monitro i arianwyr (a/neu reolwyr yn eich sefydliad) fel arfer i ddangos pa gynnydd rydych yn ei wneud. Mae data monitro’n ateb cwestiynau fel:

  • Pa gynnydd y mae’r prosiect wedi’i wneud o ran ymgymryd â’i weithgareddau?
  • Faint o arian a wariwyd hyd yma?
  • Ydy’r prosiect yn gwneud cynnydd yn unol â’r cynllun?

Mae data monitro’n bwydo i mewn i werthusiad o brosiect hefyd.

Mae Gwerthuso yn ymwneud â barnu pa mor llwyddiannus y bu’r prosiect; gan ddarganfod p’un a yw prosiect wedi cyflawni ei amcanion ai beidio. Ymgymerir â gwerthusiadau am resymau amrywiol, ond fel arfer mae’r ffocws ar ddarganfod pa wahaniaeth y mae eich prosiect wedi’i wneud. Mae’r cwestiynau a ofynnir fel rhan o werthusiad yn cynnwys:

  • Pa wahaniaeth a wnaed gan y prosiect hwn, ar gyfer pwy a pham?
  • Beth a weithiodd yn dda, i bwy, o dan ba amgylchiadau, ar ba amser a pham?
  • A ddigwyddodd unrhyw beth nad oedd i fod i ddigwydd?
  • Petaech yn rhedeg y prosiect hwn eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
  • Ydy’r prosiect ar y trywydd iawn i gyflawni’r deilliannau a ddymunir ar ei gyfer?
  • Ydy’r prosiect yn dangos gwerth am arian?

C: A oes mathau gwahanol o werthuso?

Oes, mae nifer o fathau gwahanol o werthuso:

a. Gwerthuso prosesau – sut cafodd y prosiect ei gyflwyno?

Mae hyn yn edrych ar sut mae prosiect wedi cael ei gyflwyno gan adnabod pethau sydd wedi bod o help neu’n rhwystr. Dyma rai enghreifftiau o’r cwestiynau a atebwyd gan werthusiadau proses:

  • Beth a weithiodd neu na weithiodd wrth gyflwyno’r prosiect, pam a sut, ym marn y bobl a/neu staff a gymerodd ran?
  • Pa agweddau ar y prosiect a werthfawrogwyd fwyaf neu a achosodd anawsterau? A oedd hyn yn wahanol ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl?
  • Pwy gymerodd ran yn y prosiect, pwy na gymerodd ran neu a dynnodd allan, a pham?
  • Wrth edrych yn ôl, sut ellir gwella’r prosiect? Beth fyddech neu allech chi ei wneud yn wahanol?

Ydych chi eisiau mwy o wybodaeth? Oes gennych ddiddordeb mewn sut i ymgymryd â gwerthusiad proses? PDF

b. Gwerthusiad Deilliant ac Effaith – pa wahaniaeth a wnaed gan y prosiect?

Mae hyn yn darganfod p’un a yw prosiect wedi peri i ddeilliant neu effaith penodol ddigwydd ai beidio. Yn ddelfrydol, mae angen iddo ystyried beth fyddai wedi digwydd beth bynnag (os nad oedd y prosiect yn bodoli – weithiau mae hyn yn cael ei alw’n ‘wrthffeithiol’) yn ogystal â’r hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r gefnogaeth a ddarparwyd.

Ydych chi eisiau mwy o wybodaeth? Oes gennych ddiddordeb mewn sut i ymgymryd â gwerthusiad deilliant ac effaith? PDF

Rhai pethau efallai y byddant o fudd i chi

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael…

Proffilio Lleoedd Cymru: Mae’r offeryn hwn yn darparu amrywiaeth o wybodaeth am drefi a lleoedd ledled Cymru. Mae’n ddefnyddiol iawn os oes angen ystadegau arnoch ynglŷn ag ardal: http://www.proffiliolleoedd.cymru/ChoosePlaces.aspx

Deall Lleoedd Cymru: offeryn arall sy’n darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol am leoedd. Mae’r wefan hon yn cyflwyno gwybodaeth am economi, cyfansoddiad demograffaidd a gwasanaethau lleol mwy na 300 o leoedd yng Nghymru mewn fformat cyflym a hwylus:  http://uwp.uksouth.cloudapp.azure.com/en/

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn seiliedig ar Fynegai Llefydd Llewyrchus Happy City, sy’n mesur pa mor dda y mae ardaloedd yn tyfu’r amodau angenrheidiol ar gyfer llesiant cyfiawn a chynaliadwy. Gallai fod yn ddefnyddiol os ydych yn chwilio am ystadegau ar lefel Awdurdod Lleol: http://www.llefyddllewyrchus.cymru/

InfoBase Cymru: Oes angen ystadegyn arnoch? Mae’n debygol y gallwch ddod o hyd iddo yma: http://www.infobasecymru.net/IAS/

NOMIS: Gwasanaeth a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy’n rhoi mynediad am ddim i chi i’r ystadegau mwyaf manwl a diweddar am farchnad lafur y Deyrnas Unedig o ffynonellau swyddogol. Gallwch deipio enw neu gôd post i weld (a lawrlwytho) yr holl ystadegau diweddaraf am boblogaeth, strwythur oedran, diweithdra, etc. https://www.nomisweb.co.uk/

Ydych chi’n ystyried dulliau cywain gwybodaeth gwahanol ar gyfer eich gwerthusiad? https://www.betterevaluation.org/en/rainbow_framework/describe/collect_retrieve_data

Ydych chi eisiau dylunio holiadur? https://www.betterevaluation.org/en/evaluation-options/questionnaireYdych chi eisiau gwneud arolwg ar-lein cyflym am ddim? Rhowch gynnig ar Google Forms https://www.google.co.uk/forms/about/

Ydych chi eisiau arweiniad pellach ar werthuso? Bwrw golwg ar https://www.data.cymru/cym/evaluation neu https://www.betterevaluation.org/en

Mae llawer o arweiniad ac adnoddau i’ch helpu ymgymryd â gwerthusiad yma: http://www.evaluationsupportscotland.org.uk/. Dyma arweiniad Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar werthuso: https://www.heritagefund.org.uk/cy/publications/gwerthuso-canllawiau-arfer-da

Dyma adroddiad defnyddiol sy’n edrych ar sut mae elusennau’n defnyddio eu tystiolaeth i roi hwb i’w dylanwad ac effaith:

https://www.data.cymru/SharedFiles/Download.aspx?pageid=30&mid=64&fileid=297

Mae hyd yn oed yn fwy o arweiniad ac offer a allai eich helpu chi, ar gael yma: https://www.smallcharities.org.uk/resources-evaluation-impact/