pam, beth a sut!
Monitro a Gwerthuso
Gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol
C: Pam mae angen i chi fonitro a gwerthuso eich prosiect?
Mae tri phrif reswm:
- Mae angen i ni (a chi!) wybod pa gynnydd rydych yn ei wneud o ran cyflwyno eich prosiect
- Mae angen i ni (a chi!) wybod pa wahaniaeth y mae eich prosiect yn ei wneud.
- Rydym eisiau dysgu o’r profiad o gyflwyno eich prosiect
Mae angen i ni wybod pa wahaniaeth y mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn ei wneud yn yr ardal. I wneud hyn, rydym yn gofyn i’r prosiectau a ariannwyd ddweud wrthym am yr hyn y maent wedi’i gyflawni.
Y peth pwysig i’w nodi yw bod monitro a gwerthuso yn bethau cadarnhaol. Byddant yn eich helpu rheoli a chyflwyno eich prosiect, mesur y gwahaniaeth y mae eich prosiect wedi’i wneud ac yna hysbysu pobl amdano!
C: Beth yw’r gwahaniaeth rhwng monitro a gwerthuso?
Mae Monitro yn ymwneud â chywain a dadansoddi gwybodaeth ynglŷn â phrosiect, i’w gyflawni wrth i’r prosiect fynd rhagddo. Adroddir data monitro i arianwyr (a/neu reolwyr yn eich sefydliad) fel arfer i ddangos pa gynnydd rydych yn ei wneud. Mae data monitro’n ateb cwestiynau fel:
- Pa gynnydd y mae’r prosiect wedi’i wneud o ran ymgymryd â’i weithgareddau?
- Faint o arian a wariwyd hyd yma?
- Ydy’r prosiect yn gwneud cynnydd yn unol â’r cynllun?
Mae data monitro’n bwydo i mewn i werthusiad o brosiect hefyd.
Mae Gwerthuso yn ymwneud â barnu pa mor llwyddiannus y bu’r prosiect; gan ddarganfod p’un a yw prosiect wedi cyflawni ei amcanion ai beidio. Ymgymerir â gwerthusiadau am resymau amrywiol, ond fel arfer mae’r ffocws ar ddarganfod pa wahaniaeth y mae eich prosiect wedi’i wneud. Mae’r cwestiynau a ofynnir fel rhan o werthusiad yn cynnwys:
- Pa wahaniaeth a wnaed gan y prosiect hwn, ar gyfer pwy a pham?
- Beth a weithiodd yn dda, i bwy, o dan ba amgylchiadau, ar ba amser a pham?
- A ddigwyddodd unrhyw beth nad oedd i fod i ddigwydd?
- Petaech yn rhedeg y prosiect hwn eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
- Ydy’r prosiect ar y trywydd iawn i gyflawni’r deilliannau a ddymunir ar ei gyfer?
- Ydy’r prosiect yn dangos gwerth am arian?
C: A oes mathau gwahanol o werthuso?
Oes, mae nifer o fathau gwahanol o werthuso:
a. Gwerthuso prosesau – sut cafodd y prosiect ei gyflwyno?
Mae hyn yn edrych ar sut mae prosiect wedi cael ei gyflwyno gan adnabod pethau sydd wedi bod o help neu’n rhwystr. Dyma rai enghreifftiau o’r cwestiynau a atebwyd gan werthusiadau proses:
- Beth a weithiodd neu na weithiodd wrth gyflwyno’r prosiect, pam a sut, ym marn y bobl a/neu staff a gymerodd ran?
- Pa agweddau ar y prosiect a werthfawrogwyd fwyaf neu a achosodd anawsterau? A oedd hyn yn wahanol ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl?
- Pwy gymerodd ran yn y prosiect, pwy na gymerodd ran neu a dynnodd allan, a pham?
- Wrth edrych yn ôl, sut ellir gwella’r prosiect? Beth fyddech neu allech chi ei wneud yn wahanol?
Ydych chi eisiau mwy o wybodaeth? Oes gennych ddiddordeb mewn sut i ymgymryd â gwerthusiad proses? PDF
b. Gwerthusiad Deilliant ac Effaith – pa wahaniaeth a wnaed gan y prosiect?
Mae hyn yn darganfod p’un a yw prosiect wedi peri i ddeilliant neu effaith penodol ddigwydd ai beidio. Yn ddelfrydol, mae angen iddo ystyried beth fyddai wedi digwydd beth bynnag (os nad oedd y prosiect yn bodoli – weithiau mae hyn yn cael ei alw’n ‘wrthffeithiol’) yn ogystal â’r hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r gefnogaeth a ddarparwyd.
Ydych chi eisiau mwy o wybodaeth? Oes gennych ddiddordeb mewn sut i ymgymryd â gwerthusiad deilliant ac effaith? PDF
Rhai pethau efallai y byddant o fudd i chi
Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael…
Proffilio Lleoedd Cymru: Mae’r offeryn hwn yn darparu amrywiaeth o wybodaeth am drefi a lleoedd ledled Cymru. Mae’n ddefnyddiol iawn os oes angen ystadegau arnoch ynglŷn ag ardal: http://www.proffiliolleoedd.cymru/ChoosePlaces.aspx
Deall Lleoedd Cymru: offeryn arall sy’n darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol am leoedd. Mae’r wefan hon yn cyflwyno gwybodaeth am economi, cyfansoddiad demograffaidd a gwasanaethau lleol mwy na 300 o leoedd yng Nghymru mewn fformat cyflym a hwylus: http://uwp.uksouth.cloudapp.azure.com/en/
Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn seiliedig ar Fynegai Llefydd Llewyrchus Happy City, sy’n mesur pa mor dda y mae ardaloedd yn tyfu’r amodau angenrheidiol ar gyfer llesiant cyfiawn a chynaliadwy. Gallai fod yn ddefnyddiol os ydych yn chwilio am ystadegau ar lefel Awdurdod Lleol: http://www.llefyddllewyrchus.cymru/
InfoBase Cymru: Oes angen ystadegyn arnoch? Mae’n debygol y gallwch ddod o hyd iddo yma: http://www.infobasecymru.net/IAS/
NOMIS: Gwasanaeth a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy’n rhoi mynediad am ddim i chi i’r ystadegau mwyaf manwl a diweddar am farchnad lafur y Deyrnas Unedig o ffynonellau swyddogol. Gallwch deipio enw neu gôd post i weld (a lawrlwytho) yr holl ystadegau diweddaraf am boblogaeth, strwythur oedran, diweithdra, etc. https://www.nomisweb.co.uk/
Ydych chi’n ystyried dulliau cywain gwybodaeth gwahanol ar gyfer eich gwerthusiad? https://www.betterevaluation.org/en/rainbow_framework/describe/collect_retrieve_data
Ydych chi eisiau dylunio holiadur? https://www.betterevaluation.org/en/evaluation-options/questionnaireYdych chi eisiau gwneud arolwg ar-lein cyflym am ddim? Rhowch gynnig ar Google Forms https://www.google.co.uk/forms/about/
Ydych chi eisiau arweiniad pellach ar werthuso? Bwrw golwg ar https://www.data.cymru/cym/evaluation neu https://www.betterevaluation.org/en
Mae llawer o arweiniad ac adnoddau i’ch helpu ymgymryd â gwerthusiad yma: http://www.evaluationsupportscotland.org.uk/. Dyma arweiniad Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar werthuso: https://www.heritagefund.org.uk/cy/publications/gwerthuso-canllawiau-arfer-da
Dyma adroddiad defnyddiol sy’n edrych ar sut mae elusennau’n defnyddio eu tystiolaeth i roi hwb i’w dylanwad ac effaith:
https://www.data.cymru/SharedFiles/Download.aspx?pageid=30&mid=64&fileid=297
Mae hyd yn oed yn fwy o arweiniad ac offer a allai eich helpu chi, ar gael yma: https://www.smallcharities.org.uk/resources-evaluation-impact/