Mae prosiect adfywio tai wedi derbyn pecyn ariannol sylweddol i fynd i’r afael â’r nifer uchel o gartrefi gwag sydd i’w cael yng Nghymru.
Mae Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd wedi dyfarnu’r swm o £477,285 i’r Community Impact Initiative i’w alluogi i barhau â’r gwaith o adnewyddu cartrefi gwag yn ucheldiroedd cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon drwy ei brosiect Building Resilience in Communities (BRiC).
Mae yna fwy na 120,000 o gartrefi gwag yng Nghymru (tua 8.2% o’r holl anheddau) yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol y Llywodraeth. Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fod yna, ar hyn o bryd, 2,704 o dai yn ardal yr awdurdod lleol y gwyddys eu bod yn wag.
Drwy’r cynllun BRiC caiff tai fu’n wag ers amser hir eu prynu, yn aml mewn ocsiwn, eu hadnewyddu i safon priodol, a’u dychwelyd i’r farchnad dai.
Wedi ei sefydlu yn 2016, mae’r cynllun hefyd yn cynnig rhaglen waith gwirfoddolwyr i unrhyw un dros 16 oed, sy’n galluogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, addasu i batrwm gwaith/bywyd personol, a datblygu hyder yn y diwydiant adeiladu.
Symudodd Paul Gall, 49 oed, o Fryste i Drefforest a dechreuodd weithio ar y prosiect y llynedd.
“Cafodd fy nghymar ddiagnosis o epilepsi ddeng mlynedd yn ôl, felly camais o fyd gwaith er mwyn gofalu amdani hi drwy’r dydd, bob dydd,” dywedodd Paul.
“Gweithiais yn yr Almaen fel plastrwr, cymhwysais fel saer coed ym Mryste, a bûm yn rheolwr prosiect hefyd. Ond roedd bod i ffwrdd o’r safle am gymaint o amser wedi effeithio’n fawr ar fy hyder.”
Penderfynodd Paul symud yn agosach at deulu ei gymar partner’s yn Nhrefforest er mwyn gallu dechrau chwilio unwaith eto am waith amser llawn, ond cafodd gyngor gan ei fentor gyrfa i ymuno â’r prosiect BRiC er mwyn ailadeiladu ei hunanhyder.
“Mae gweithio gyda gwahanol bobl unwaith eto wedi bod yn fanteisiol i mi. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fyddech chi byth yn fy ngweld yn codi fy llaw mewn cyfarfodydd ac yn cynnig syniadau ar brosiectau,’ meddai Paul.
“Mae’r cyfan yn dal yn weddol newydd i mi, ond mae popeth yn mynd yn dda. Dwi’n gweithio gyda’r mentoriaid ac yn cynnig rhywfaint o gyngor i’r bois ifanc sy’n ymuno â ni.
“Am flynyddoedd, ro’n i’n cael problem gyda siarad yn gyhoeddus, ond mae cynghorwyr y prosiect wedi bod yn amyneddgar gyda mi, a bellach dwi’n me>my dwi’n gallu delio â phroblemau unwaith eto.”
Gall pobl fel Paul ymuno â’r prosiect a dod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol ar wefan y Community Impact Initiative.
Dywedodd Abi Lewis, Pennaeth Darparu Gwasanaeth y Community Impact Initiative: XX
Dywedodd Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd: “Mae Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd wrth eu bodd yn cefnogi prosiect sy’n mynd i’r afael â mater mor bwysig o fewn ardal y gronfa. Mae BRiC yn gwneud gwaith ysbrydoledig yn gostwng nifer y tai gwag tra hefyd yn grymuso pobl i ddysgu sgiliau newydd, datblygu eu teimlad o falchder cymunedol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth bellach.”