Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae gweithgareddau Capcoch wedi cynyddu, ac maen nhw bellach wedi ymestyn i ffurfio grŵp newydd sy’n cydweithredu gydag aelodau a grwpiau cymunedol eraill ledled Abercwmboi.
Dros y cyfnod hwn maen nhw wedi rhedeg pantri bwyd, siop gyfnewid yn darparu dillad a gwisgoedd ysgol wedi’u hailgylchu, a hỳb glanweithdra, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau a chyrsiau.
Yn sgil eu llwyddiant maent wedi tyfu mas o’u lleoliad presennol, a gwneud cais i ni am gynhwysydd cymunedol mawr. Bydd hyn yn eu galluogi i barhau i ddarparu’r gwasanaethau holl bwysig hyn yn y gymuned, tra hefyd yn datblygu i wneud y canlynol:
- Darparu lleoliad ar gyfer cyfarfodydd wythnosol sefydliad cymunedol lleol
- Ymestyn a gwella’r cynllun ailgylchu ac ailddefnyddio
- Cynnal rhaglenni hyfforddi ar gyfer gwarcheidwaid, rhieni, a’r cyhoedd yn gyffredinol
- Darparu mynediad at ddosbarthiadau coginio a chyngor ar faetheg
“Dim ond y cam cyntaf yw hwn i’r mudiad newydd yma; gan eu bod eisoes yn cydweithredu gyda’r ysgol, grŵp y cyfeillion, rhieni a gwarcheidwaid, maen nhw’n ymwybodol o botensial mawr y gofod i ddatblygu’n adnodd gwerthfawr yn y gymuned ac mae ganddynt nifer o syniadau ar gyfer y defnydd ohono. Rhoddwyd grant iddynt oherwydd ein bod ni wedi ymrwymo i feithrin sgiliau bywyd, hyder, annibyniaeth a gwydnwch, yn ogystal â datblygu gofodau cymunedol sy’n cael eu gwerthfawrogi gan y gymuned.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol
“Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle anhygoel hwn i wella ac ymestyn ein prosiect cymunedol ‘Stand 2gether Stronger 4ever’. Edrychwn ymlaen at greu gofod bywiog, cynhwysol lle gall pawb ddod at ei gilydd i ddysgu, rhannu a thyfu.” – Cymuned Ofalgar Capcoch
Mae grwpiau gweithredu cymunedol yn dibynnu ar wirfoddolwyr, felly os ydych yn yr ardal a bod gennych ychydig oriau’r mis yn rhydd, neu eich bod yn gallu helpu ar adegau penodol o’r flwyddyn, beth am gysylltu a chynnig help llaw? – c.parry@capcochprimary.co.uk