Fferyllfa Treherbert – Gwella iechyd y gymuned drwy wasanaethau fferyllfa blaengar.

1024 576 rctadmin

Dyfarnwyd £26,000 fel cyfuniad o fenthyciad/grant i Fferyllfa Treherbert ar gyfer eu prosiect Adnewyddu Siop/Fferyllfa.

Roedd y prosiect yn ymwneud â gwaith adnewyddu sylweddol ar safle fferyllfa gymunedol yn Nhreherbert, gan greu gofod clinigol priodol fel bod modd darparu gwasanaethau fferyllol angenrheidiol wedi eu huwchraddio. Yn flaenorol, nid oedd gwasanaethau clinigol ar gael yn y lleoliad hwn, ond ers i’r fferyllfa newid dwylo mae wedi gallu darparu lleoliad yn y gymuned lle gall cleifion dderbyn triniaeth yn ôl yr angen. Bydd Fferyllfa Treherbert yn gallu ehangu’r gwasanaeth hwn wrth symud ymlaen, diolch i’r gwaith adnewyddu, gan roi amser clinigol mwy hygyrch i faes yn y GIG sydd eisoes dan ormod o bwysau.

“O’r cychwyn cyntaf mae eu gwasanaethau clinigol wedi bod ar gael, ynghyd â gwell mynediad at yr agwedd bwysig hon o ofal iechyd. Profwyd hyn gyda thros 100 o ymgynghoriadau yn ystod eu mis cyntaf o fasnachu. Bydd yr arian hwn yn eu helpu i wella tu mewn y fferyllfa i ganiatáu twf yn y ddarpariaeth fferyllfa a gwasanaethau. Cafwyd defnydd sylweddol o arian cyfatebol ar draws y prosiect cyfan, a gwella’r stryd fawr yn ogystal â darparu gofal iechyd o safon uchel i’r gymuned leol.” – Holly Jones, Swyddog Ariannol a Chefnogi Menter

‘Mae’r perchnogion newydd a’r fferyllydd yn Fferyllfa Treherbert yn hynod uchelgeisiol ac yn ffocysu ar yr elfen glinigol wrth weld cyfle i gyflwyno ystod o wasanaethau modern wedi eu ffocysu ar y cleifion i’r boblogaeth leol.  Byddai cyllid o Pen y Cymoedd nid yn unig yn helpu i wella’r adeilad, gan ddod â bywiogrwydd i’r stryd fawr, ond hefyd yn cyfrannu at uwchsgilio’r tîm gwych a darparu ystod ehangach o wasanaethau’r GIG o safon uchel er budd cymunedau Treherbert a’r ardal o gwmpas. Mae pobl y Rhondda’n haeddu mynediad at ofal iechyd o’r radd flaenaf.’ – Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Dywedodd Tom, un o berchnogion y Fferyllfa: ‘Mae ymateb y gymuned wedi bod yn anhygoel a’r sylwadau’n bositif iawn.’