Dyfodol Llewyrchus i Ofal Iechyd: £149,999 wedi’i ddyfarnu i Fferyllfa Tynewydd

1024 453 rctadmin

Mae Fferyllfa Tynewydd wedi derbyn £149,999 i drawsnewid ei hadeilad ac ehangu mynediad at wasanaethau gofal iechyd hanfodol, gan helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus i gleifion a’r gymuned ehangach.

Mae’r wobr yn cynnwys grant o £6,500 a benthyciad ad-daladwy, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau y gall y Gronfa barhau i gefnogi busnesau lleol sy’n gwneud elw am flynyddoedd i ddod. Mae’r model hwn yn galluogi mentrau i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i dyfu, tra bo’r ad-daliadau’n cael eu hail-fuddsoddi yn y Gronfa — gan ein helpu i adeiladu dyfodol llewyrchus a chynaliadwy i’r gymuned ehangach.

Daeth Fferyllfa Tynewydd at y Gronfa gyda chynllun uchelgeisiol i:
Ehangu capasiti clinigol a mynediad cleifion – drwy greu ystafelloedd ymgynghori newydd, gwella cynllun y safle, a chynyddu mynediad dwyieithog ac anabledd.
• Cefnogi gwytnwch ac arloesedd gofal sylfaenol – gan gynnig gwasanaethau fel profi heintiau wrinol a gwerthusiadau clinigol i helpu lleihau’r pwysau ar bractisiau meddygon teulu.
Gwella tegwch iechyd – gan sicrhau bod cymunedau sydd wedi’u tanwasanaethu, siaradwyr Cymraeg, a chleifion ag anghenion ychwanegol yn gallu cael mynediad at ofal yn lleol.
Buddsoddi mewn datblygiad gweithlu – gan ddarparu lle ar gyfer hyfforddiant staff, lleoliadau i fyfyrwyr, a chyfleoedd gwaith newydd i’r ardal leol.
Yrru cynaliadwyedd a thrawsnewid digidol – drwy sicrhau bod y fferyllfa’n barod ar gyfer y dyfodol trwy uwchraddio i fod yn fwy gwyrdd a darparu lle ar gyfer technoleg dosbarthu awtomataidd.

Gyda’r newidiadau hyn, bydd y fferyllfa nid yn unig yn gwella mynediad at ymgynghoriadau’r GIG a gwasanaethau clinigol, ond hefyd yn creu canolfan gofal iechyd fodern, gynhwysol i’r Rhondda Uchaf.

Pam y bu inni ariannu’r prosiect hwn

Mae angen sylweddol ac sy’n cynyddu am well mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn Nhreherbert a’r cymunedau cyfagos. Mae Fferyllfa Tynewydd eisoes yn chwarae rhan hanfodol wrth leihau’r pwysau ar bractisiau meddygon teulu lleol, ond mae cyfyngiadau’r adeilad presennol yn atal ei gallu i ehangu.

Drwy gefnogi’r datblygiad hwn, rydym yn buddsoddi mewn:
• Wasanaethau gofal iechyd mwy hygyrch, wedi’u seilio yn y gymuned.
• Gwydnwch gwell ar gyfer gofal sylfaenol lleol.
• Cyfleoedd ar gyfer twf ac arloesi yn y gweithlu.
• Model cynaliadwy o ddarparu gofal iechyd mewn ardal o angen uchel.

Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â’n gweledigaeth o ardal gronfa lewyrchus a gwytnach, lle mae busnesau lleol yn cael eu cefnogi i arloesi, tyfu, a chyflwyno buddion ystyrlon i’w cymunedau.

Dywedodd Gareth Hughes, Contractwr Fferyllfa Tynewydd:

“Mae cefnogaeth gan Ben y Cymoedd wedi bod yn allweddol wrth droi ein gweledigaeth yn realiti. Mae eu buddsoddiad yn ein galluogi i drawsnewid fferyllfa fach, hen ffasiwn yn ganolfan gofal iechyd bwrpasol, fodern yng nghanol y gymuned. Gyda phedair ystafell ymgynghori newydd a dosbarthfa flaengar, rydym bellach yn medru darparu gofal iechyd hygyrch o ansawdd uchel i’r gymuned leol ac ymhellach am flynyddoedd i ddod.

Yn yr un modd, mae’r model ailfuddsoddi yn bwysig iawn. Drwy ad-dalu’r benthyciad, rydym yn cyfrannu at gylch twf ac ailfuddsoddi gan Ben y Cymoedd sy’n galluogi busnesau lleol eraill i wireddu eu huchelgeisiau. Mae’r dull hwn yn creu effaith barhaol ac yn cryfhau gwead ein cymunedau. Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Pen y Cymoedd ac yn gyffrous am y dyfodol y mae wedi ein helpu i’w adeiladu.”

https://www.facebook.com/profile.php?id=100063517392044#
https://www.instagram.com/tynewyddpharmacy/
https://www.linkedin.com/in/gareth-hughes-b12144161/?originalSubdomain=uk&skipRedirect=true&originalSubdomain=uk