Mae cyfleuster hamdden cymunedol hanfodol wedi derbyn cyllid o £300,000 gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.
Mae Pwll Nofio Cwm Afan yn y Cymer wedi dod yn ganolbwynt cymunedol hanfodol, gan ddarparu gwersi nofio grŵp ac un-i-un, sesiynau nofio teuluol, a nofio lonydd saith diwrnod yr wythnos, gyda 36,000 o ymweliadau’n cael eu cofnodi’n flynyddol.
Mae’r pwll hefyd yn gartref i Glwb Nofio Cwm Afan, Plymio Cymreig, Dechrau’n Deg, clwb ieuenctid wythnosol a Chymunedau Am Waith. Bydd y £300,000 o’r Gronfa Weledigaeth yn ariannu gweithrediad y pwll am bum mlynedd, gan barhau i gyflogi 13 o staff gyda chymorth gwirfoddolwyr.
Wedi’i adnabod yn gynt fel Pwll Nofio Cymer, achubwyd y ganolfan pan gamodd Hamdden Cymunedol Cwm Afan, ar y cyd â Llandarcy Park Ltd, i’r adwy i godi arian yn dilyn ei chau ym mis Rhagfyr 2015.
Dywedodd Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd: “Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y pwll nofio hwn. Dyma’r unig bwll nofio yng Nghwm Afan, gyda chyfleusterau tebyg mewn trefi eraill yn anymarferol i lawer yn y gymuned gael mynediad iddynt. Bydd cymorth gan Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd yn lleddfu pwysau ariannol yn sylweddol. Bydd Hamdden Cymunedol Cwm Afan yn parhau i godi arian tuag at ei gostau rhedeg, ond rydym yn gobeithio y bydd y wobr hon yn helpu i gefnogi cynaliadwyedd y pwll yn y dyfodol.”
Dywedodd Hayley Phillips, Ymddiriedolwr: “Mae Hamdden Cymunedol Cwm Afan yn falch iawn o fod wedi derbyn cyllid gan Ben y Cymoedd. Mae’r cyllid hwn yn hanfodol er mwyn i’n grŵp allu parhau i ymgysylltu â Llandarcy Park Ltd, ein dewis bartner sy’n gweithredu’r pwll yn llwyddiannus ac yn ddiogel ar ein rhan. Mae’r pwll yn darparu cymaint o fuddion cyflogaeth, iechyd ac addysgol i’n cymuned. Mae gan y pwll gysylltiadau cryf ag ysgolion lleol, clybiau, a llawer o sefydliadau.
Mae’n gartref i Glwb Nofio Cwm Afan llwyddiannus sy’n tyfu’n gyson. Mae llwyddiant y pwll nid yn unig oherwydd grantiau a godwyd gan Hamdden Cymunedol Cwm Afan a’r sefydliadau a’r unigolion sy’n defnyddio’r cyfleuster ond mae hefyd yn dyst i’r staff gwych sy’n gweithio yn y pwll – Darren, Tom, Janet a Wyn i enwi ond rhai. Maent mor angerddol am eu rolau a’r gymuned y maent yn byw ynddi, ac mae hyn, heb os, yn helpu i feithrin yr amgylchedd llwyddiannus.
Mae CBC Pen y Cymoedd wedi deall y cryfderau a’r brwydrau y mae cymunedau fel Cwm Afan yn eu hwynebu wrth ymdrin â bygythiad i gau asedau cymunedol hanfodol, a hoffem ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.”