Pan ddaeth Cyngor Tref Glyn-nedd atom ni fel cronfa gyda’u cynllun i drawsnewid Parc Lles y Glowyr, Glyn-nedd yn gyrchfan ddeniadol trwy adeiladu ar botensial cyfleusterau sydd ar gael eisoes ac ychwanegu rhai newydd a fyddai’n gwasanaethu’r gymuned leol a Chwm Nedd am flynyddoedd lawer i ddod, roeddem yn gyffrous iawn. Yn hytrach na mabwysiadu dull o symud fesul cam, byddai hwn yn ddatblygiad o bwys a fyddai’n diogelu’r cyfleusterau a’r gofod ar gyfer y dyfodol.
Bu’n broses hir, ac mae Cyngor Tref Glyn-nedd a chydweithwyr wedi gweithio’n galed i ymgysylltu â’r gymuned, profi cynlluniau, a threfnu tendrau i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y gymuned leol.
Roedd y cais a gyflwynwyd i Ben y Cymoedd yn cyfrif am ychydig dan hanner y gost lawn, ac mae’r swm anhygoel o arian cyfatebol a sicrhawyd eisoes yn brawf o’u hymrwymiad, ac o’r nifer o bobl sy’n gweld potensial y prosiect. Ymhlith y cyllidwyr eraill mae Cronfa Lles Cymunedol Maesgwyn, Cronfa Gymunedol Selar, a grant Mân Brosiectau Cymunedol Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
I ni fel cronfa, roeddem yn falch o weld ymrwymiad ariannol ar ran Cyngor y Dref – nid yn unig yn ystod y cyfnod cyfalaf, ond hefyd o ran yr addewid i ymrwymiad ariannol mewn cyllidebau yn y dyfodol i gynnal a chadw’r parc, edrych ar ei ôl, a parhau i’w ddatblygu.
“Bydd y prosiect hwn yn creu ardal chwarae wych i blant o’r ieuengaf hyd at yr arddegau, yn adnewyddu tri o’r cyrtiau tennis sydd yno eisoes, ac yn trawsnewid y pedwerydd cwrt yn Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (MUGA).
“Bydd hefyd yn troi’r hen lawnt fowlio yn ardal newydd, gyffrous, lle gall plant o oedran meithrin hyd at 11 oed chwarae a dysgu. Rydyn ni fel cronfa wedi ymrwymo i ddatblygu ardaloedd cymunedol sy’n uchelgeisiol, yn cwrdd ag anghenion y gymuned, yn cynnig gofod ar gyfer chwarae, chwaraeon a lles, ac yn cynhyrchu amgylcheddau y gall y gymuned fod yn falch ohonynt.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Pen y Cymoedd
“O’r cychwyn cyntaf yn 2017, mae’r prosiect hwn wedi bod yn uchelgeisiol, yn drawsnewidiol, ac yn gyfle poblogaidd ac angenrheidiol ar gyfer Cyngor Tref Glyn-nedd a chymuned gyfan Glyn-nedd. Rydym wrth ein bodd bod yr holl bartneriaid yn y broses hon wedi dyfarnu cyllid llawn iddo. Mae pawb yn hynod falch o’r prosiect a’r hyn y bydd, gobeithio, yn ei ddarparu ar gyfer cymuned Glyn-nedd. Cam 1: Cyfleusterau Chwarae yw’r trawsnewidiad cyntaf a gynlluniwyd, ac mae’n hen bryd i hyn ddigwydd. Rydym wedi cael y fraint o weithio gyda llawer o bobl, a chael eu cefnogaeth, yn enwedig pobl ifanc Glyn-nedd, ein swyddogion a’n cydweithwyr drwy Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a’n holl gyllidwyr. Mae Glyn-nedd yn haeddu hyn, ac rydym ninnau wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn digwydd.” – Cyngor Tref Glyn-nedd