Cysylltodd Clwb Rygbi a Chlwb Criced Resolven â’r gronfa i wneud cais am gyllid i osod Paneli Solar, System Storio Batris a Phwyntiau Gwefru EV – materion a nodwyd fel blaenoriaethau i’r clwb yn dilyn Arolwg Ynni a gynhaliwyd ganddynt. Roedd y clwb eisoes wedi gweithredu’r holl fesurau brys a nodwyd gan yr arolwg, ac roedd yna arian cyfatebol sylweddol ynghlwm â’r cais. Roeddem yn falch o ddyfarnu’r swm o £23,951 iddynt tuag at eu prosiect gwerth £58,309.25.
Bydd y gwaith hwn yn galluogi’r clwb i wneud defnydd mwy effeithlon o ynni, lleihau eu hôl troed carbon, a darparu gwasanaeth i’w cymuned leol. Bydd eu Pwyntiau Gwefru EV ar gael i’w haelodau ac i’r gymuned.
Sut mae hyn yn cwrdd â blaenoriaethau’r gronfa?
- Annog cynaliadwyedd adeiladau a gofodau cymunedol – yn ariannol ac yn amgylcheddol
- Lleihau’r effaith ar yr amgylchedd
- Cymryd camau i leihau dibyniaeth y gymuned ar garbon
“Hoffai Clwb Rygbi Resolven ddiolch yn fawr i Pen y Cymoedd a’r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC/WCVA) am alluogi’r clwb i gwblhau’r prosiect Paneli Solar, ac i Platinum Energy am osod y paneli yn eu lle.
Dylai’r prosiect alluogi’r clwb i ostwng ei Ôl Troed Carbon a sicrhau parhad y clwb dros y dyfodol rhagweladwy. Mae’n bleser gan y clwb gynnig defnydd o’r Pwynt Gwefru Cerbydau Trydan i’r gymuned leol. Ar hyn o bryd, dyma’r unig bwynt gwefru yn y pentref.”