Diweddariad Afan Lodge

1024 560 rctadmin

Hoffem rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwerthiat Afan Lodge gyda chymuned Cwm Afan.

Mae’n bosib eich bod yn ymwybodol bod Afan Lodge wedi cau ym mis Tachwedd wedi cyfnod ymgynghori gyda staff. Roeddem wedi cefnogi’r Lodge ers 2019, gan gadw’r busnes yn weithredol trwy rai cyfnodau anodd iawn, gan gynnwys Covid a’r argyfwng costau byw parhaus. Serch hynny, roedd yn amlwg bod angen buddsoddiad sylweddol er mwyn i’r Lodge gyflawni ei llawn botensial, ac roedd yn amlwg nad ni oedd y sefydliad cywir i fwrw ymlaen â hyn.

Gwnaed y penderfyniad i gau a pharhau gyda’n hymdrechion i werthu Afan Lodge er mwyn sicrhau bod y gronfa gymunedol yn cael ei gwarchod yn y tymor hir.

Arweiniwyd proses werthu gyhoeddus gan y grŵp arbenigol GS Verde. Croesawodd y broses hon gynigion agored, a derbyniodd ein bwrdd nifer ohonynt ac ystyried sawl un o ddifrif, a’n dewis ni oedd y byddai busnes neu grŵp lleol yn prynu’r adeilad. Wedi gorffen y broses hyn, rydym nawr yn symud ymlaen drwy werthu i grŵp busnes lleol.

Ar hyn o bryd, gan fod y gwerthiant i’w gwblhau, ni allwn ddatgelu pwy yw’r prynwr yn gyhoeddus. Serch hynny, maent yn rhannu ein hymrwymiad i sicrhau nad yw Afan Lodge yn parhau yn wag am gyfnod hir ac yn gwerthfawrogi’r angen iddo gael ei ddefnyddio mewn modd ystyrlon cyn gynted â phosibl.

Gwyddom fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymwybodol o’r broses o werthu. Byddwn yn parhau i siarad â chynghorwyr a swyddogion lleol i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru ac yn gallu rhannu’r newyddion diweddaraf yma gyda chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Afan Lodge, rydym yn annog pobl i gysylltu â ni’n uniongyrchol. Gallwch wneud hyn trwy Facebook, neu ar e-bost drwy enquiries@penycymoeddcic.cymru

Byddwn yn parhau i siarad â’r gymuned yng Nghwm Afan am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac yn annog trigolion i gysylltu â ni i drafod eu syniadau a’u huchelgeisiau ar gyfer y gronfa.