Cymorth parhaus i Ariannu Cymunedau diolch i CGG CNPT

718 714 rctadmin

Yn ôl yn 2018 fe wnaethom ymgysylltu â’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol i gynnig cymorth a chefnogaeth ymarferol i ariannu cymunedau. Ers hynny maent wedi:

  • Darparu cymorth datblygu i gannoedd o ymgeiswyr y Gronfa a derbynwyr grantiau
  • Helpu grwpiau i wneud cais am arian gan PyC a chyllidwyr eraill
  • Cynnig hyfforddiant, mentora ac arweiniad
  • Cefnogi tîm PyC
  • Cyfeirio a chyflwyno grwpiau i asiantaethau eraill i gryfhau’r ardal a grwpiau sy’n gweithredu ynddi

“Rydym wrth ein bodd yn cynnig cyllid o £150,000 i CGG CNPT i barhau i gefnogi’r gronfa ac ariannu cymunedau dros y 3 blynedd nesaf.

Mae’r gwaith a wnânt mewn partneriaeth ag arweinwyr a chymunedau lleol yn amhrisiadwy i sicrhau bod cronfa PyC yn sicrhau newidiadau cadarnhaol a hirhoedlog. Gallant nodi cryfderau ac asedau lleol, a chefnogi cymunedau i  ddatblygu a chyflwyno prosiectau, rhaglenni a mentrau sy’n mynd i’r afael â materion lleol. Mae’r gronfa bob amser wedi gobeithio bod yn uchelgeisiol dros ei hoes gan anelu at gefnogi’r ardal i fod yn lle deinamig, cyffrous, bywiog i fyw a gweithio ynddo. Mae’r cymorth ychwanegol a gynigir gan CGG Castell-nedd Port Talbot a’u staff medrus yn hanfodol i ni gyflawni’r nod hwn.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol

“Mae CGG Castell-nedd Port Talbot yn falch o weithio mewn partneriaeth â Bwrdd y Cyfarwyddwyr a staff Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd i sicrhau y gwneir y gorau o’r Gronfa yma yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r Gronfa’n parhau i roi cyfle i bobl leol yng Nghymoedd Nedd ac Afan fuddsoddi ynddynt eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sy’n dda yn eu cymunedau a datblygu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer y dyfodol.” – Gaynor Richards, Cyfarwyddwr CGG Castell-nedd Port Talbot.