Roeddem wrth ein bodd yn gallu helpu Cyngor Ar Bopeth RhCT pan ddaethant i ofyn am help i greu 1.5 o swyddi i ddarparu cymorth cymunedol holl bwysig dros gyfnod o ddwy flynedd. Roedd yn amlwg y byddai’r gallu i gynnig cyngor a chymorth yn y modd hwn yn helpu unigolion i ateb eu hanghenion lles cymdeithasol. Rydym yn ymwybodol o’r cynnydd a fu mewn materion yn ymwneud â chyngor o fewn cymunedau lleol, ac ymrwymiad gan leoliadau ar draws Cynon, Rhondda Fawr a’r Fach i helpu pobl i fynd i’r afael â’r rhain, gyda chefnogaeth Cyngor Ar Bopeth RhCT.
Cefnogir dau gyfle am swyddi lleol gan y grant dros gyfnod o ddwy flynedd; gyda’r arian yma, bydd Cyngor Ar Bopeth RhCT yn gallu:
- Ymestyn eu darpariaeth cyngor cymunedol o fewn cymunedau Pen y Cymoedd,
- Cyflenwi 55.5 awr ychwanegol o gyngor a chymorth lles cymdeithasol bob wythnos, gan helpu pobl i oresgyn eu problemau,
- Uwchsgilio recriwtiaid newydd gyda’r wybodaeth a’r sgiliau mae arnynt eu hangen i ddarparu cyngor o ansawdd uchel, i roi hwb i gyflogadwyedd yn y farchnad swyddi leol,
- Gwella iechyd a lles pobl trwy gynyddu mynediad wyneb yn wyneb at gyngor a chymorth lles cymdeithasol.
Byddant mewn gwell sefyllfa i gwrdd ag anghenion pobl a’u dewis o ffyrdd i gael mynediad, trwy weithio gyda phartneriaid i greu llwybrau atgyfeirio dwyochrog a chyd-leoli gwasanaethau cynghori yng nghanolfannau eu partneriaid, ochr yn ochr â gweithgareddau cymunedol.
Gallent helpu cymunedau gyda phopeth – o faterion yn ymwneud â dyledion, ynni a phroblemau defnyddwyr i gynghori ar uchafu incwm, tai, a chryfhau capasiti ariannol pobl. Gallant hefyd helpu pobl i ddysgu am eu hawliau cyflogaeth, yn cynnwys hawliau statudol, newidiadau mewn amodau gwaith, cwynion, terfynu, a phrosesau tribiwnlys.
“Rydym yn ymwybodol o’r heriau a wynebir o fewn rhai o’r cymunedau, a bydd y gwasanaeth hwn yn helpu’r sefydliad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n byw yng nghymunedau’r gronfa, trwy ymestyn eu mynediad at gyngor i’w helpu wrth iddynt ddelio â phwysau’r argyfwng costau byw, sydd wedi cynyddu eu hangen am gyngor, tra maent yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal.”– Kate Breeze, Pen y Cymoedd
“Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd am eu caredigrwydd a’u haelioni yn ein cefnogi ni yn Cyngor Ar Bopeth Rhondda Cynon Taf i sefydlu gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cymunedol newydd. Bydd yr arian hwn yn ein galluogi i weithio gyda phartneriaid i gynyddu mynediad at gyngor di-dâl, diduedd, a chyfrinachol yng nghymoedd Cynon Uchaf a’r Rhondda, fel y gallwn gynghori a helpu mwy o bobl sy’n cael eu heffeithio gan y cynnydd mewn costau byw.” (Ashley Comley, Prif Weithredwr, Cyngor Ar Bopeth Rhondda Cynon Taf)