Heddiw, rydym yn drist iawn i gyhoeddi ein cynnig i gau Afan Lodge ar ddydd Llun 4ydd Tachwedd, yn dilyn cyfnod ymgynghori o 30 diwrnod gyda staff Afan Lodge.
Yn 2019 prynodd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd (PyC CIC) Afan Lodge i achub y busnes er budd Cwm Afan a chymunedau ehangach. Mae wedi cael ei reoli a’i redeg ar ran PYC CBC gan staff lleol am y pum mlynedd diwethaf.
Yn dilyn cynnig gan y perchnogion a diwydrwydd dyladwy priodol, penderfynodd CBC PyC i brynu’r Lodge fel rhan o’i gylch gorchwyl a’i genhadaeth i helpu i ysgogi ac adfywio gweithgaredd economaidd ledled ardal fudd y Gronfa, a chefnogi twristiaeth ar draws ardal fudd y gronfa.
Ar ôl adnewyddiad ysgafn, fe ailagorodd y Lodge ym mis Mawrth 2020, ond caeodd wythnos yn ddiweddarach gyda dyfodiad pandemig Covid-19. Mae wedi ei chael hi’n anodd adeiladu momentwm ers hynny.
Nid oedd erioed yn fwriad gan y gronfa i fod yn berchen ar y lleoliad yn y tymor hir, a thros y 6 mis diwethaf, mae’r gronfa a chyfarwyddwyr Afan Lodge wedi ceisio gwerthu’r Lodge fel busnes gweithredol gyda diddordeb cadarnhaol yn y Lodge hyd yma.
Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb, mae’r Lodge yn parhau i redeg ar golled, ac rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i gychwyn cyfnod ymgynghori, tra’n parhau i geisio darganfod prynwr.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y staff yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn trafod y pecyn cymorth yn uniongyrchol gyda’r staff.
Hoffem sicrhau pob ymwelydd y bydd eu harchebion yn cael eu hanrhydeddu hyd at y dyddiad cau arfaethedig, a byddwn yn gofalu amdanoch hyd eithaf ein gallu. Cysylltir ag unrhywun osododd archeb ar ôl y 4ydd o Dachwedd maes o law.
Gellir gweld cwestiynau ac atebion yma
Am ymholiadau’r wasg, cysylltwch â: Rhian.richards@wearecowshed.co.uk