Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Pan ddyfarnwyd i gwmni ynni Vattenfall y contract gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu fferm wynt Pen y Cymoedd Cytunasant i sefydlu cronfa gymunedol a reolir yn annibynnol er budd y cymunedau hynny a effeithir yn fwyaf uniongyrchol gan y datblygiad.  Mae cronfeydd tebyg yn bodoli mewn ardaloedd eraill lle mae ffermydd gwynt yn gweithredu, ond gydag incwm gwarantedig o £1,800,000 y flwyddyn tan 2043, Pen y Cymoedd yw’r gronfa fwyaf o’i fath o bell ffordd yn Lloegr & Nghymru. Mae’r Gronfa wedi’i sefydlu fel cwmni buddiannau cymunedol, gan sicrhau annibyniaeth o Vattenfall a chan y Llywodraeth, ac fel sefydliad dielw Mae’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu buddsoddi ar gyfer y budd mwyaf posibl i gymunedau mewn prosiectau lleol â blaenoriaeth. Mae’r Gronfa wedi’i sefydlu fel cwmni buddiannau cymunedol, gan sicrhau annibyniaeth o Vattenfall a chan y Llywodraeth, ac fel sefydliad dielw Mae’n gallu gwneud y mwyaf o ddosbarthiad yr arian yn uniongyrchol i brosiectau lleol.

Yn bennaf, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai ym Mlaenau Cymoedd nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Gellir gweld rhestr lawn o drefi a phentrefi o fewn ein maes budd yma.

Mae gennym ddiddordeb mewn cynigion gweithgarwch a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau o fewn y maes hwn o fudd. Mae’n bosibl i ymgeiswyr gael eu lleoli y tu allan i’r ardal, ond rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect a gynigir fod o fudd uniongyrchol i gymunedau oddi mewn iddo. Os nad ydych yn siŵr a yw syniadau eich sefydliad neu gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni.

Mae dau edefyn ymgeisio i’r Gronfa Grantiau Bychain, pob un â’i Ffurflen Gais ei hun:

A. Cronfa Grantiau Bychain: Cymunedau – ar gyfer mudiadau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol, cynghorau cymuned a thref, a chymdeithasau rhieni ac athrawon mewn ysgolion.

Er na all cyrff statudol ymgeisio am grant gan y Gronfa Grantiau Bychain, rydym yn croesawu prosiectau neu weithgareddau sydd wedi eu datblygu a’u cyflwyno ar y cyd. Rydym yn croesawu gwaith partneriaeth gyda’r sector statudol.

Os ydych yn fudiad newydd mae’n bosib na fydd gennych y rhain mewn lle ar hyn o bryd, ond i dderbyn grant bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • O leiaf cyfansoddiad sylfaenol a chyfrif banc, Cymdeithas Adeiladu neu Undeb Credyd yn enw eich mudiad
  • O leiaf tri pherson nad ydynt yn perthyn i’w gilydd ar eich corff llywodraethu / pwyllgor rheoli.
  • Polisi aelodaeth agored. Wrth hyn rydym yn golygu y dylai fod croeso i unrhyw un sydd am gymryd rhan yn eich mudiad, grŵp neu weithgaredd wneud hynny, oni bai bod rhesymau clir pam nad yw hyn yn bosib. Os oes unrhyw gyfyngiadau, dylech esbonio yn eich cais pam fod gennych y rhain.

B. Cronfa Grantiau Bychain: Microfusnesau – ar gyfer unigolion, busnesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes y maent eisiau datblygu neu ddechrau menter, datblygu sgiliau a hyfforddiant etc.

Fel arfer bydd grantiau’r Gronfa Microfusnesau rhwng £300 – £1,000 a gallant gefnogi mynediad i hyfforddiant a chychwyn a datblygu busnesau. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir dyfarnu grantiau hyd at uchafswm o £5,000.

Os ydych yn fusnes newydd mae’n bosib na fydd gennych y rhain mewn lle ar hyn o bryd, ond i dderbyn grant bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • Cyfrif banc, Cymdeithas Adeiladu neu Undeb Credyd yn enw eich busnes
  • Vod yn gofrestredig gyda Chyllid a Thollau EM – gallwch gael mwy o wybodaeth yma.

 

 

  • gweithgareddau nad oes ganddynt effaith uniongyrchol ar yr ardal sy’n elwa
  • ceisiadau gan gyrff sector cyhoeddus
  • ceisiadau gan unigolion ar wahân i’r rhai sydd eisiau sefydlu neu ddatblygu busnes neu ymgymryd â hyfforddiant cysylltiedig
  • Gweithgareddau y mae cyrff sector cyhoeddus yn statudol gyfrifol amdanynt
  • Gweithgareddau sy’n ymwneud â phleidiau gwleidyddol neu grefydd yn unig
  • Gwariant/costau a dalwyd yn y gorffennol ar gyfer gweithgareddau sydd eisoes wedi digwydd
  • Digwyddiadau cymdeithasol unigol nad ydynt yn rhan o weithgaredd ehangach
  • TAW y gallwch ei hadennill

Cronfa micro: gall y gronfa dalu am ran neu’r cyfan o’ch gweithgarwch neu brosiect – Os bydd eich gweithgarwch yn costio mwy na £5,000, bydd angen i chi ddweud wrthym o ble y daw gweddill y cyllid a phryd y bydd yn debygol o fod ar waith. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld copïau o dderbynebau, cyfriflenni banc ac ati – felly cadwch nhw’n ddiogel.

Cronfa gweledigaeth: Bydd ceisiadau’n gryfach os oes arian cyfatebol a dylech archwilio dewisiadau ond rydym yn eich annog i drafod hyn gyda ni pan fyddwn yn cyfarfod i drafod cynnig.

Cronfa Grantiau Bychain: Mae penderfyniadau ar ba un a ddylid dyfarnu grant neu beidio’n cael eu gwneud gan Gyfarwyddwyr y Cwmni Buddiant Cymunedol – fel arfer o fewn 6 wythnos ar ôl dyddiad cau pob rownd ymgeisio.
Y Gronfa Gweledigaeth: Mae hyn yn dibynnu ar ba gynllun rydych yn ymgeisio iddo.
Gweler llinell amser y rhaglen yma: https://penycymoeddcic.cymru/wp-content/uploads/2019/02/Application-Timetable-1.pdf

Bydd y Gronfa’n bodoli am o leiaf 20 mlynedd, felly does dim angen am banig os byddwch yn colli terfyn amser neu os bydd angen gwneud ychydig yn fwy owaith ar eich syniad cyn i chi ymgeisio. Mae’n well i chi gymryd eich amser a sicrhau bod popeth yn ei le fel eich bod yn barod i ddechrau os ydych yn llwyddiannus. Bydd o leiaf dwy rownd o’r Gronfa Grantiau Bychain bob blwyddyn.

Cronfa micro: ceir dwy rownd y flwyddyn a gwneir penderfyniadau ynghylch p’un a ddylid dyfarnu arian ai peidio o fewn 6 wythnos i bob dyddiad cau cylch ceisiadau.

Cronfa gweledigaeth: Mae hyn yn dibynnu ar ba gynllun rydych yn gwneud cais amdano.

Gallwch weld ein llinell amser ymgeisio yma.

Ydw yn hollol, rydym yn annog pob ymgeisydd i gysylltu â thîm y staff. Gallwn roi cyngor dros y ffôn, e-bost neu sefydlu apwyntiadau wyneb yn wyneb neu ar-lein.