Clwb Bowls Cymmer yn derbyn grant o £20,750 i Wella’r Cyfleusterau a Dathlu’r Canmlwyddiant

725 637 rctadmin

Roedd y clwb wedi bod yn ystyried gwneud gwaith adnewyddu ar raddfa fawr ond, ar ôl trafod gydag asiantaethau cefnogi ac aelodau, penderfynwyd taw’r pethau fyddai’n gwneud gwahaniaeth go iawn fyddai adnewyddu’r llawr a’r cladin allanol, ac uwchraddio’r system drydan a’r gegin.

Pan dderbyniwyd cais oddi wrthynt, roeddem yn falch o weld cynllun realistig i uwchraddio adeilad y clwb a’i wella ar gyfer aelodau cyfredol ac aelodau newydd yn y dyfodol; roedden nhw hefyd yn gweld yr adnewyddu hwn fel cyfle i gynnal 4 digwyddiad cymunedol a 6 gêm ddathlu dros y 12 mis nesaf fel ffordd o gydnabod y gwaith a’u canmlwyddiant, a chyfle i ddenu rhagor o bobl atynt o’r gymuned.

Braf oedd gweld yr ymrwymiad hwn, ac ymhen 12 mis dylai adeilad y clwb fod wedi ei uwchraddio, gydag aelodau newydd a chefnogwyr o’r gymuned leol.

 

“Roeddem wrth ein bodd yn derbyn y cyllid hwn i’n helpu i nodi 100-mlwyddiant Clwb Bowls Cymmer trwy adnewyddu’r pafiliwn i ddathlu’r ased chwaraeon hanesyddol hwn sydd wedi sefyll am dros 100 mlynedd.  Cyflawnir hyn trwy uwchraddio adeilad y clwb, y system drydan, y cladin a’r decin. Ar ôl hynny byddwn yn trefnu cyfres o gemau dathlu arbennig gyda chwech o dimau lleol, yn ogystal â gwahodd y gymuned i’r pafiliwn i weld arddangosfa o hen luniau, ynghyd ag adrodd hanes y clwb a’r safle a’r modd y cafodd ei ddatblygu er lles y glowyr lleol. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y trigolion o bwysigrwydd  y safle a’r rôl a chwaraewyd ganddo ym mywyd bob dydd sawl cenhedlaeth o bobl, ac annog y gymuned leol i hel atgofion am y gorffennol. Gwyliwch y gofod!” – Darren, Cymmer Bowls