Campfa Pontrhydyfen yn derbyn £6,500

717 720 rctadmin

Mae Clwb Hyfforddi Codi Pwysau Pontrhydyfen wedi bod yn rhan o’r gymuned ers 1980. Ffurfiwyd y clwb, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Gymunedol Pontrhydyfen, gan wirfoddolwyr fel bod modd i’r gymuned allu hyfforddi a gwella eu ffitrwydd, eu hiechyd a’u lles. Mae’r gampfa’n darparu mynediad i aelodau na allent gyrraedd y campfeydd masnachol ehangach, tra ar yr un pryd yn cadw’r costau cyn ised â phosib.

Gwnaethant gais i Pen y Cymoedd am gyfraniad o’r Gronfa Gweledigaeth i brynu offer campfa newydd, gan fod eu hoffer presennol wedi cyrraedd diwedd ei oes ac aelodau’ n aml yn cael problemau. Dyfarnwyd £6,500 iddynt tuag at brynu offer newydd, modern, i ddisodli’r hen offer er mwyn rhoi gwell profiad i’w haelodau, ac annog aelodau newydd i ymuno â’r gampfa.

“Roeddem yn gefnogol i hyn gan ein bod yn awyddus i annog ystod ehangach o gyfleoedd yn lleol i fod yn iach, actif ac ymgysylltiedig, a sicrhau bod gofodau cymunedol yn unol ag anghenion y gymuned.” – Shayla Walsh, Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

“Roedd Pwyllgor Clwb Hyfforddi Codi Pwysau Pontrhydyfen wrth eu bodd yn clywed bod ein cais am grant i  Pen y Cymoedd wedi llwyddo. Rydym yn ddiolchgar iawn bod y grant hwn wedi ein helpu i brynu offer hyfforddi newydd, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn cael ei osod yn ei le yn y dyfodol agos. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu parhau i ddarparu profiad iechyd a lles i’r gymuned am bris isel gan ddefnyddio’r offer diweddaraf.

Llawer o ddiolch i Pen y Cymoedd oddi wrth bawb yng Nghlwb Hyfforddi Codi Pwysau Pontrhydyfen.” – Jonathan, Clwb Hyfforddi Codi Pwysau Pontrhydyfen