Mae Pen y Cymoedd yn falch o gefnogi Cyngor Cymuned Clyne a Melincourt gyda chyfraniad o £25,895 tuag at uwchraddio Parc Chwarae Bryn Golwg, gan adeiladu ar welliannau blaenorol a ariennir drwy’n Micro Fund yn 2019.
Nod y prosiect yw creu man awyr agored diogel, cynhwysol ac ymgysylltiol i blant, pobl ifanc a theuluoedd o bob oedran a gallu o fewn y gymuned.
Yn dilyn arolwg tŷ-i-dŷ a digwyddiadau ymgynghori cymunedol, mae prif elfennau’r gwelliannau’n cynnwys:
• Uned chwarae aml-swyddogaeth newydd
• Rowndabout powlen droelli
• Siglen cynhwysol a siglen wyneb-yn-wyneb
• Pen gôl aml-chwaraeon
Mae’r gwelliannau hyn yn adlewyrchu dymuniad y gymuned i weld mwy o amrywiaeth a chynhwysiant mewn darpariaeth chwarae leol.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Gyngor Cymuned Clyne a Melincourt, gyda chefnogaeth gan Uned Datblygu a Chyllido Prosiectau Castell-nedd Port Talbot.
“Rydyn ni’n falch o gefnogi uwchraddiad Parc Chwarae Bryn Golwg. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ymgysylltiad cymunedol cryf ac ymrwymiad clir i lesiant, cynhwysiant a chwarae awyr agored — blaenoriaethau allweddol yn ein Rhaglen Gymunedol.”
– Shayla, Swyddog Cymorth Cronfa – Cymuned
“Rydyn ni’n hynod gyffrous i weld y gymuned yn elwa ar ardal chwarae newydd mor groesawgar yma ym Mharc Chwarae Bryn Golwg, Clyne. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r rhai a wnaeth y penderfyniadau yn y Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd, Cronfa Gymunedol Ffynnon Oer, a’r grant Prosiectau Bach Cymunedol NPTCBC am roi’r cyfle i ni gyflawni’r prosiect hwn. Bydd yr ardal chwarae newydd yn galluogi plant a phobl ifanc o bob oed a gallu i chwarae gyda’i gilydd mewn amgylchedd diogel a chyffrous.”
– Y Cynghorydd Lucy Hadley, Cyngor Cymuned Clyne a Melincourt
