Canlyniadau Rownd 17 y Gronfa Micro

1024 560 rctadmin

Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi rownd ddiweddaraf y dyfarniadau Cronfa Meicro a fydd yn cefnogi 31 o grwpiau a busnesau lleol gwych gyda chyfanswm o £147,942.77 i ddod â’u syniadau’n fyw ledled ardal Pen y Cymoedd! 🙌

O gymorth iechyd meddwl a mentora pobl ifanc, i ddigwyddiadau cymunedol, gwasanaethau lleol newydd a thyfu busnesau bychan – mae’r prosiectau hyn yn  ymwneud ag adeiladu cymuned gryfach, fwy iach, a mwy cysylltiedig.

Dros y dyddiau nesaf, byddwn yn rhannu’r straeon y tu ôl i bob un o’r ceisiadau llwyddiannus – felly ‘hoffwch’ nhw, eu dilyn, a dangos eich cefnogaeth. Mae’n ffordd wych o ddarganfod beth sy’n digwydd ar stepen eich drws!

Mae’r Gronfa Meicro yma i helpu i drawsnewid gweledigaeth eich cymuned yn realiti.

#MicroFund #CommunityPower #LocalInvestment

MFB A. Jones Agri Bydd cwmni dibynadwy lleol, sy’n darparu gwasanaethau amaethyddol, nawr yn ymestyn eu cyrhaeddiad ac yn cynnig hyd yn oed mwy i ffermwyr ledled yr ardal – yn enwedig ym maes bugeilio, ffensio a gwaith gyda pheiriannau. £4,026
MFB Back2Front Physiotherapy Yn sgil prynu InBody 270, gall cleientiaid ffitrwydd ac adferiad bellach dracio’r cynnydd yn eu cyhyrau, y braster a gollir, ac iechyd metabolig – gan eu helpu i barhau’n frwdfrydig, yn wybodus, ac ar y llwybr cywir i adferiad. £6,000
MFB Cuts ’N Curls Mae’r salon poblogaidd hwn yn cael adnewyddiad haeddiannol iawn. £2,004.90
MFB Dylan’s Pets Mae’r siop anifeiliaid boblogaidd hon yn datblygu! Bydd y gofod newydd yn y siop ar gyfer triniaethau pampro anifeiliaid anwes nid yn unig yn rhoi cyfle i berson lleol lansio a thyfu eu busnes, ond hefyd yn cynhyrchu incwm ychwanegol ar gyfer Dylan’s Pets. Mae hon yn enghraifft berffaith o fusnes yn cefnogi busnes. £6,500
MFB EcoShield Windows Gyda chefnogaeth broffesiynol ym maes marchnata, bydd y bartneriaeth hon yn ehangu eu cyrhaeddiad ac yn eu gwneud yn fwy gweladwy, gan gryfhau presenoldeb y brand mewn marchnad gystadleuol.. £2,500
MFB Hendrefawr Agri Bydd peiriannau newydd yn rhoi hwb i gapasiti ac effeithiolrwydd, ac yn gwneud gwasanaethau newydd yn bosibl, yn cynnwys rheoli coetiroedd mewn modd cynaliadwy, a sicrhau cyflenwad fforddiadwy o goed tân. Mae’n gam ymlaen ar gyfer yr amgylchedd a chyflogaeth leol. £6,500
MFB Infinity Photo Helpu 20+ o fusnesau lleol i edrych ar eu gorau! Bydd Infinity Photo yn cynnig Sesiynau Brandio Llawn i wella’r elfen weladwy, denu cwsmeriaid newydd, a helpu busesau lleol i adrodd eu stori trwy gyfrwng ffotograffiaeth broffesiynol, drawiadol. £6,500
MFB Lily Pad Films O ffuglen i dreftadaeth, mae’r fenter aml-genhedlaeth hon yn ymwneud â rhannu straeon y Rhondda nad ydynt wedi cael eu hadrodd hyd yn hyn – a sicrhau eu bod yn cael gwrandawiad eang ac yn creu strategaeth hir-dymor ar gyfer creu fideos cyfranogol yn RhCT £6,500
MFB LV Plumbing Mae’r  busnes hwn yn buddsoddi mewn talent lleol drwy drefnu prentisiaethau, ac yn bwriadu hurio plymer cymwysedig – gan helpu i gwrdd â’r galw a darparu gwasanaeth cyflym, dibynadwy, ledled yr ardal. £6,500
MFB Thomas Lloyd Barbering Nid siop barbwr yn unig yw hon – mae hi hefyd yn fodd i lansio talent ifanc. Trwy gynnig hyfforddiant a mentora 1-i-1, bydd y prosiect hwn yn cefnogi unigolion sydd mewn perygl o fod yn NEET, yn rhoi hwb i’w hyder, ac yn cynnig llwybr i waith barbwr. Cyfuniad gwych o dyfu busnes a chael effaith gymdeithasol. £6,500
MFB Tic Toc Clock Repairs Mae’r busnes unigryw hwn yn buddsoddi mewn offer torri arbenigol i wella effeithiolrwydd a chynyddu capasiti. £6,495
MFB Treherbert Hardware Mae gwasanaethau newydd i dorri allweddi’n dod i’r busnes cymunedol hwn! Bydd yn ychwanegu at yr hyn sydd gan y siop i’w gynnig, yn dod â chwsmeriaid newydd i mewn, ac yn rhoi hwb i’r elw – gan sicrhau gwasanaeth hyd yn oed yn well i drigolion lleol. £4,940.08
MFC Afannedd Archers Clwb bwa-saethu maes yn Aberdulais sy’n croesawu teuluoedd a bwa-saethwyr o bob oedran. Gyda thargedau 3D wedi eu huwchraddio, toiledau newydd, a gwell cyfleusterau, maen nhw’n barod i groesawu digwyddiadau rhyngwladol a gwyliau bwa-saethu am hwyl. £4,016.61
MFC Autism Life Centres O brofiad sensori i sgiliau annibyniaeth, mae’r cynllun nofio hwn yn creu sblash go iawn ym mywyd oedolion awtistaidd a chanddynt anghenion cymhleth – gan roi hwb i iechyd, hyder, a’r cysylltiad rhwng symudiadau a chwarae. £2,250
MFC Band y Parc a’r Dâr Gyda gwersi am ddim ar yr offerynnau taro, a chyngherddau cymunedol, maen nhw’n agor drysau i addysg gerddorol ac yn cadw traddodiad balch y band pres yn fyw yn y Rhondda. £6,261.30
MFC Canolfan Cwmaman Mae Mynediad i Bawb yn golygu urddas, diogelwch a chynhwysiant – cyfleusterau toiledau cynhwysol newydd, a drws tân er diogelwch, oherwydd mae pawb yn haeddu gallu teimlo bod croeso iddyn nhw. £6,350
MFC Cape Art Mae creadigrwydd wedi dod o hyd i gartref newydd yng Ngwynfi – mae Cape Art yn darparu man lle gall pobl leol archwilio, creu, a chysylltu trwy gyfrwng y celfyddydau. Gyda chefnogaeth ariannol, maent yn magu nerth o wythnos i wythnos. Rydym yn falch o gefnogi celfyddydau llawr gwlad lle maent yn cael yr effaith fwyaf. £480
MFC Clwb Bowls Resolven Bydd y grant hwn yn helpu i uwchraddio’r grîn a phrynu offer cynnal a chadw arbenigol – a bydd hefyd yn cefnogi ymdrechion cymunedol gwych megis y cynllun “Mabwysiadu Gwely Blodau”. Mae pawb, o’r chwaraewyr i’r gwirfoddolwyr, yn cymryd rhan. £4,218
MFC Clwb Pêl-droed Llwydcoed Gwella ystafelloedd newid i groesawu rhagor o dimau a chynnal gweithgareddau. Creu partneriaethau gydag ysgolion lleol a sefydliadau iechyd meddwl, a darparu mwy o fynediad at chwaraeon awyr-agored = gwella llesiant i bawb! £6,500
MFC Clwb Pysgota Llyn y Forwyn Uwchraddio offer a chyfarpar fel bod modd cadw eu llyn hyfryd mewn cyflwr ardderchog ar gyfer pysgotwyr lleol. Newyddion gwych i’r gymuned bysgota yng Nglyn Rhedynog. £1,385
MFC Clwb Rygbi Glyncorrwg Llefydd i eistedd dan do, ac ailwampio’r ardd allanol. Creu gofod cyfeillgar-i-natur ar gyfer digwyddiadau, cyfnodau tawel, a chael hwyl. £6,444.30
MFC Coeden Bywyd Horse Project Trwy weithio gyda gyr o geffylau a achubwyd, mae’r prosiect ysbrydoledig hwn yn cynnig sesiynau mentora rheolaidd ar gyfer pobl ifanc fregus – gan eu helpu i adeiladu ymddiriedaeth, hunan-hyder, a theimlad o bwrpas drwy wneud cysylltiadau pwerus ag anifeiliaid. £6,500
MFC Côr Cwm Cynon Mae eu prosiect Canu! Cymreictod! Cyfeillgarwch! yn ffocysu ar gynhwysiant ac ehangu cyrhaeddiad y côr. Bydd y cyllid yn eu galluogi i ymarfer yn gyson yng Nghapel Green Street, canolfan groesawgar a hygyrch sydd wedi’i lleoli yng nghalon y gymuned. £1,551
MFC Cymdeithas Rhandiroedd Abergarwed Llwybrau hygyrch fel bod pawb yn gallu parhau i arddio, meinciau i sgwrsio gyda ffrindiau, i orffwys, ac i fwynhau byd natur. Ffordd o ofalu nad yw oedran na gallu’n rhwystro neb rhag tyfu. £5,912.97
MFC Ffrindiau Parc Treorci Atgyweirio ystafell bwmpio’r pwll padlo = achub hwyl yr haf!

Fel hwb cymunedol sy’n boblogaidd iawn gan gannoedd o deuluoedd, mae ganddynt les tymor-hir, a bellach gwydnwch tymor-hir hefyd.

£6,500
MFC Gŵyl Mabon Mae Gŵyl Mabon yn ei hôl, ac yn barod i ddisgleirio â thalent newydd o Gymru a dathliad diwylliannol yn Nhreorci yn 2025; ac ar ôl i ni gyllido eu blwyddyn gyntaf yn 2024, bydd y grant bychan hwn yn eu helpu i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn 2025. £1,100
MFC Kieron Bailey Gan adeiladu ar lwyddiant ‘Turning the Wheel’, mae prosiect nesaf Kieron yn eich gwahodd i helpu yn y dasg o siapio dyfodol y theatr yn rhannau uchaf Cwm Rhondda. Gyda straeon lleol, cantorion, a llwyfan y Parc a’r Dâr, dyma eich cyfle chi i fod yn rhan o’r broses greadigol o’r cychwyn cyntaf. £6,500
MFC Maerdy Gifting Dau drip mewn bws i lan y môr – un ar gyfer pobl unig dros 60 oed fel y gallant fwynhau cyfeillgarwch ac awyr iach, ac un arall ar gyfer teuluoedd na fyddent fel arall yn cael gwyliau. Pleserau syml, ac atgofion am oes. £1,100
MFC Mothers Matter Mae’r prosiect hwn, sy’n rhwydwaith cefnogi hollbwysig i deuluoedd, yn darparu  gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol drwy gyfrwng hwb lles newydd, ymweliadau â’r cartref, ac allgymorth cymunedol – gan rymuso rhieni â’r gofal maent yn eu haeddu yn eu cyfnodau mwyaf bregus. £6,499
MFC NPT Horse Riders Creu gofod pwrpasol i gael seibiant a chymdeithasu fel bod modd i farchogion lleol gael saib, mwynhau dishgled, a chysylltu â’i gilydd. Trwy ychwanegu rhagor o offer iechyd a diogelwch, byddant yn awr yn gallu cynnal digwyddiadau hwyl mwy o faint yn yr ardal. £2,908.61
MFC Spectacle Theatre Archwilio gwrywdod ac iechyd meddwl drwy lens creadigrwydd. Mae gwaith Spectacle Theatre yn creu gofodau dewr ar gyfer trafodaethau, empathi, a hunan-adnabyddiaeth. £6,500