Mae parc sy’n ganolog i gymuned yng Nghwm Nedd wedi’i drawsnewid yn gyrchfan i bob oed yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £820,000.
Mae cyfleusterau newydd ym Mharc Lles Glowyr Glyn-nedd yn cynnwys parc chwarae i blant, yn lle’r lawnt bowls, gyda gwifrau gwib, trampolinau, cwrs rhaffau, siglenni, chwirligwgan cynhwysol, a “ffordd” ar gyfer beicio a sgwtera.
Mae tri chwrt tennis wedi’u hadnewyddu’n llwyr ac mae pedwerydd wedi’i ailwampio fel ardal gemau aml-ddefnydd ar gyfer pêl-droed, hoci a phêl-rwyd. Mae’r parc i bobl ifanc yn eu harddegau bellach yn cynnwys gwifren wib ddwbl, dringwr conau, cylchdrowr, siglenni a chysgodfan.
Mae’r ailddatblygiad wedi canolbwyntio ar gynwysoldeb a hygyrchedd, gydag offer wedi’u cynllunio ar gyfer plant ag anableddau, ac fe’i hagorwyd yn swyddogol i’r cyhoedd ddydd Mawrth, Ebrill 22.
Derbyniodd y prosiect, a arweiniwyd gan Gyngor Tref Glyn-nedd, grant o £393,240 gan Gronfa Weledigaeth Pen y Cymoedd, sy’n agored i brosiectau beiddgar ac uchelgeisiol sydd o fudd i gymunedau yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.
Mae cyfraniadau gan bartneriaid eraill yn cynnwys:
- 395,000 gan Gronfa Budd Cymunedol Maes Gwyn
- £13,518 gan Gyngor Tref Glyn-nedd
- £10,000 gan Grant Mân Brosiectau Cymunedol Cyngor Castell-nedd Port Talbot (grant sydd ar gael i bob Cyngor Tref a Chymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot)
- £6,101.90 gan Gronfa Budd Cymunedol y Selar
Dywedodd Kate Breeze, cyfarwyddwr gweithredol Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd: “Mae’n gymaint o bleser gweld Parc Lles Glyn-nedd yn cael ei fwynhau gan blant o bob oed ar ôl cymaint o waith caled gan y cyngor tref a’i bartneriaid amrywiol.
“Mae’r parc yn ganolbwynt i bobl yng Nghwm Nedd, ond roedd gwir angen ei ddiweddaru i’w gadw’n amgylchedd defnyddiol a hwyliog i blant a phobl ifanc. Creu’r cyfle i ddatblygu gofodau y gall cymuned eu mwynhau am genedlaethau yw union ddiben y gronfa hon.”
Dywedodd Maer Tref Glyn-nedd, y Cynghorydd Julian Bulman: “Rydym yn falch iawn o weld y gwaith o ailddatblygu Parc Lles Glowyr Glyn-nedd wedi’i gwblhau. Mae hwn yn ofod cymunedol hanfodol sydd wedi’i drawsnewid yn ardal fywiog, gynhwysol a fydd o fudd i drigolion o bob oed am flynyddoedd i ddod. Mae’r cyngor tref yn hynod ddiolchgar i’r holl gyllidwyr a phartneriaid a wnaeth hyn yn bosibl – mae’n gyflawniad gwych i Lyn-nedd.”